Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cathlau Bore a Nawn.djvu/74

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

DROS Y FFIN.

YNG ngwyll y ffin dywedent hwy,
A thybiwn i fod hynny'n wir,
"Nis gwelir mwy, nis gwelir mwy:
Ddaw neb yn ol o'r dirgel dir."

Ond drosodd daethost lawer gwaith.
I sibrwd wrthyf, mi a wn;
A mi ni holais am y daith:
Rhy sanctaidd yw'r dirgelwch hwn.

Ni wyddant hwy, ond gwyddost di
A minnau, am y troion hyn:
Ti'n taflu trem neu air, a mi
Yn gwrando ac yn sylwi'n syn.

Aderyn llwyd, nas gwn o b'le,
I'm gardd ddaw ataf ambell dro;
A diarwybod fel efe
Y deui dithau o dy fro.

A mi yn brudd, heb achos mawr,
Ti wêni eto, megis cynt;
A chywilyddiaf dan dy wawr,
A ffŷ y pruddglwyf ar ei hynt.

Daw hiraeth, neu anhawsder blin,
I'm rhwystro weithiau ar y daith;
Doi dithau weithiau dros y ffin,
A'th air i mi yn ysbryd gwaith.

Mi wn fod ffin, mi wn fod llèn,
Yn cuddio'th wlad oddiwrthym ni;
Ond gwyr fy nghalon fwy na'm pen;—
A'r ddirgel ffordd a wyddost di.