Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cathlau Bore a Nawn.djvu/76

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rosyn gwyllt fy nghalon i,
Rosyn Du, Rosyn Du, . . .
Saeth gudd amser, parod hi,
Rosyn Du!
Beth am hyn, O dlws fy mron,
Gan nad y'm ond megis tonn,
Gan nad ydyw cariad llon.
I ni ond fel y 'storom hon,
Rosyn Du.


LLANYCIL.

LANYCIL hen! Lanycil hoff!
Am dawel saib, am odlau syn
Hen fore clir, â'm myfyr cloff
I'r fan y llêch ar fin y llyn.
Ar ambell awr,
Tra cof a dawr
Yn frwd a chwai, hyfrydwch hyn!

Y dyddiau gawn yn ddedwydd gynt,
O sŵn y dre i'r fangre fud
Yn fynych awn brynhawn ar hynt,
Am awr ddi drwst ger mawredd drud;
Ac felly'r cu
Gymrodyr fu
Yn awyr hedd o dan yr hud.

Ah! glwys y lle ger glâs y llyn
A barcha lun y wybr uwchlaw,
Ac yntau'r perthog freiniog fryn
Ddelwedda drem Olewydd draw.
Sanct Feddwl nef!
Glân fri di lef
Ei babell Ef sydd ar bob llaw.