Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cathlau Bore a Nawn.djvu/77

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y meini tyst! Rhoem glust mewn taw
I'w harawd wâr yn erw Duw—
Eu distaw sôn am droion draw,
Am wŷr o barch a meirw byw.
Pob meddwl ffrom,
A gwyllt ymgòm,
Yn dyner âi o dan yr yw.

Lanycil hen, dy hawl i'n clod
Estynnai Iôr pan welaist ni
Yn hebrwng pennaeth wnaeth ei nod—
Ein hathro doeth—i'th ddaear di.
Tra gwêno sêr
Ei enw têr
Fwyha dy fraint, gryfha dy fri.


CHWAON FFORDD Y WAWR.

RHY gynnar yw
I neb o amgylch deimlo'i ffûn,
Na bod crâs dyrfau ar ddi—hûn,
Na süon chwaith—yr un, yr un,
Ond süon Duw.

Fy enaid llwfr,
Na thro'n gyhuddgwyn am dy fyw
Y sŵn o'r afon ddaw i'th glyw,
Ond gwybydd mai sŵn Cariad yw
Suadau'r dwfr.

O! chwäon glân,
Rhy brin mae'ch cyffyrddiadau mwyn
Yn cyffro cwsg y grug a'r brwyn,
A thrwy eu hûn mae dail y llwyn
Yn cofio'u cân.