Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Ynddynt mae Natur fwyn
Yn dangos ei thlysau hi—
Tlysau y twf dan y graig a'r llwyn,
A thlysau'r lli.
Pell yw y byd a'i ddrwg
O'r tawel encilion cu,—
Pell ydyw crechwen sarhaus a gwg
Pob gelyn du.
Melys yn wir yw'r hedd
I fyfyr o'u mewn y sydd;
Hyfryd yw llonder neuaddau a gwledd
Breuddwydion dydd.
Iddynt ysbrydion ddônt
A osgoant ynfydion byd,
A llawer cyfrinach agored ront
I ddifalch fryd.
Bywyd a'i ddrysi prudd
I'w golwg ddaw bron yn glir,
A rhyfedd droadau'r olwynion cudd
Uwch anial dir.
Mi welais ryw ambell awr
Rhwng llenni'r ymguddiol hedd
Y bannau tragwyddol sy bell, a'r wawr
Tu hwnt i'r bedd.
Anwyl encilion clyd,
Ynoch 'rwy'n hoffi byw,
I glywed y lleisiau na chlyw y byd,
A gwel'd fy Nuw.