Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cathlau Bore a Nawn.djvu/80

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

YSBRYD GWANWYN.

DECHREU Mawrth, ac mor iachuso!!
Oer yr awel, ond nid iasol;
Llonnach heddyw ffordd Y Glasgoed,
Ac o'i deutu ynni maboed.

Dyma ôl olwynion priddlyd,
Dyma grai aroglau gweryd;
Dyma deimlad newydd, newydd,
Fel a ddyry chwa boreddydd.

Dacw lennyrch draw yn glasu;
Llonna'r afon wrth gwmpasu;
Newydd liw sydd ar ganghennau,
Newydd flagur ar eu brigau.

Ar ei aden mae'r ehedydd,—
Berr ei gathl ond llawn llawenydd;
Bronfraith acw hwylia delyn,
Mwyalch nabl o aur rhuddfelyn.

Beth o'm hamgylch sy'n anadlu?
Ai rhyw ddirgel fôd neu allu?
Pa ryw siffrwd, fel swn deffro?
Pa ryw ddistaw, ddistaw gyffro?

"Pan ollyngych di dy ysbryd.
Hwy a grëir"—hen ddywedyd.
Ysbryd heddyw sydd yn disgyn,
Cyffro bywyd dan bob plisgyn.