Mor ddi sŵn a sydyn daethost,
Hyfryd Haf, ger bron!
Mor ryw hawdd a llwyr y gwnaethost
Fyd oedd brudd yn llon!
Sut y gwyddai'r holl dyfolion
Dan y perthi, trwy'r encilion,
Am dy ymdaith? Mae'r eiddilion,
Fel eu cryf gymdeithion braf,
Wedi'th gwrdd i ddweyd o'u calon,
"Henffych, Haf!"
AR LAN YR AFON LONYDD.
Ar lan yr afon lonydd,
A lifai trwy ei hun
Islaw toreithiog feusydd
Ei chartref gwych ei lun,
Fe safai'r lân Eluned
Yng nghysgod deiliog bren,
Ollyngai neithdar addfed
I'r eurwallt ar ei phen.
Yn hanner ofnus yno
Hi safai'n ddistaw, syn,
A'i meddwl wedi suddo
"Yn llonydd dwfn y llyn"—
Y llyn ryw nos a welsai
Mewn rhyfedd freuddwyd erch—
Mewn breuddwyd a dyfasai
O siom rhwystredig serch.
Ni welai ond ei delw
Fel angel yn y dwfr—
Fel angel teg, yn galw
Ei hofn yn ysbryd llwfr;