Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Ymrithiai pell ddirgelion
Yn nwfn y gloyw li,
A holi mud gyfrinion
Yr oedd ei chalon hi.
Tawelwch meddf yr afon
Fel swyn a deimlai'r ferch;
A thybiai yn ei throion
Wel'd rhith o yrfa serch:
I fyny, llu o rwystrau
Yn peri cynnwr' câs;
I lawr, dim swn na thonnau,
Ond hedd gweirglodd-dir glas
Bu'n syllu'n hir a dyfal
I'r esmwyth li di-fraw,
Heb feddwl fod ei Hidwal
Yn edrych oddi draw.
Hi aeth a'i llun diguro
O fynwes ddofn y llyn;
Ond nid oedd symud arno
O galon Idwal Wyn.
Trwy rwystrau wedi hynny
Y ffrydiodd serch y ddau,
Ac ofni wnaent mai felly
Y byddai i barhau;
Ond daeth y dydd i weled
Y ffrydiau'n afon lefn,
Ac Idwal ac Eluned
Yn canu'r droiog drefn.