NEL YR YNYS.
UN chwim yw Nel yr Ynys,
A digon ffraeth ei gair;
Hi weithia pan fo galw
Lawn mwy na dwy neu dair.
Ni ŵyr beth yw diogi,
Ni wrendy salwch bach;
A chlo rhag rhith a rhodres
Sydd ar ei chalon iach.
Hi gân wrth fynd i odro,
Hi gân wrth wasgu'r dêth;
A dywed dull y gwartheg
Nad yw ei gwrando'n dreth;
Hi gân ar ol dychwelyd,
Ar hyd y dydd o'r bron;
A thyna pa'm mae'r Ynys
Yn lle mor iach a llon.
Ni rêd pan wêl ddieithriaid
Yn cyrchu at y tŷ:
Mae Nel yn dwt bob amser,
A'i gwallt o'r tlysaf ddu.
Dirgelwch uwch ei ddirnad
I rai sy'n gwisgo'n ddrud
Yw harddwch Nel; a balchder
Sy'n syllu arni'n fud.
Chwi dybiech wrth ei golwg
Na wêl hi ddim o bwys,
Ac wrth ei ffraeth atebiad
Nad all hi deimlo'n ddwys.
Gofynnwch i'r cym'dogion,
Neu i'r amddifad oen,
Neu'r adar at Yr Ynys
Yrr eira, rhew, neu boen.