Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cathlau Bore a Nawn.djvu/86

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Oni chlywi'r byd a'i gri?
Oni sylwi arnom ni?
Onid oes, aderyn llon,
Ofid ar y ddaear gron?

"Haf a'i heulwen, rê—re, rê—re,
Pa raid sôn am miserere?
Doniau dolydd, coed yn deilio,
Dwfr a helig,—difyr eilio.
Re—re, heulwen, rê, awelig,
Dyma nefoedd Llwyd yr Helig."


HEN GERDDI'R WERIN.

HEN gerddi gwerin Gwalia,
Nid oes eu hail, mi ddalia':
Pwy yn eu gwerth a'u gwir fwynhad
O filoedd gwlad na falia?


Mi glywais gerddi gwerin
Yr Alban falch ac Erin:
I'n cerddi ni nid nes y rhain
Na thwrw brain Gwytherin.

Yr anwyl inna' hefyd!
Ein cerddi pwy na threfyd?
Gwna'r "Hen Wr Mwyn" a'r "Gwcw Fach"
Wyw glaf yn iach o'i glefyd.

Hen gerddi gwerin Cymru,
O ddyddiau'r uwd a'r llymru,
I'w galw hwynt o'r ciliau rhwd
Daw amryw'n frwd eu hymru.

Rhyw freuddwyd pêr a gefis,
Hyd oni lafar lefis,—
Gwel'd Doctor Lloyd yn lluchio sêr
I'r diva, Mary Davies.