Drigolion gwlad y canu,
Yn lle pob gwâg fychanu
Rhown groeso i'r hen gerddi prin
A ddenir i'n diddanu.
TIPYN O YMGOM.
IANTO.—
MAE Ebrill bron darfod, a Mai fwyn yn dyfod,
A ddoi di'n ddiddannod i gysgod y gwydd?
Cawn wrando cân hudol y bronfraith perorol,
A charol wir hudol yr hedydd.
ELSBETH.—
Mae'n well gen' i awen y fylchog fwyalchen,
A'r binc fraith ei haden o'i changen a'i chôr;
A gwell gennyt tithau, os gwir ddaw i'm clustiau,
Swn geiriau dėl enau d' Elinor.
IANTO.―
Na yrr i fy nghalon rhyw eiriau mor wirion,
A thyr'd trwy y meillion i dirion gwrr dôl;
Mi gasglaf dlws flodau wrth fyn'd hyd y llwybrau
Wna'n ddiau dy wenau'n dywynnol.
Mi blethaf it' goron o eiddew y goedfron
I'th wneuthur yn fanon fy nghalon, fy nghu;
Fe'i heuraf â chynnar aur flodau y dalar,
Rho'f fwyar digymar i'w gemu.
ELSBETH.—
Os rhaid i mi ddyfod, gwnaf innau bleth hynod
Pengaled a wermod i wisgo dy wallt;
A chwiliaf yn gethin am chwerlys yr eithin
I'th nodi di'n frenin y fronallt.