IANTO.—
O. Elsbeth ffraeth eiriau, gwnaf i ti freichledau
O wyddfid a blodau ceginau y gôg;
A daliaf friallu i wneyd i ti ballu
Fy nallu â gallu asgellog.
A glywi di'r adar yn canu a thrydar—
Pob un am ei gymar naws hawddgar yn sôn?
Ai gormod i minnau gael uno â'u seiniau
Y nodau sy'n nghiliau fy nghalon?
Y DDAU.—
Wel, awn gyda'n gilydd i gwrr y llwyn llonydd,
Lle mae pob llawenydd ar gynnydd i'r gog;
Awn yno i wenau y dorus fwynderau
Am oriau o hwyliau dihalog.
PLAS ERYR.
NID oes dŷ sydd hoffach man
O dan yr eang wybyr:
I'r ymwelydd ger ei ddrws
Ei groesaw tlws a egyr;
Ac nid oes unlle mwy di lol
A siriol na Phlâs Eryr.
I wneyd y niwliog wedd yn glir
A gwir effeithiol gyffyr;
I foddi holl flinderau'r dydd
Mewn rhydd hyawdledd difyr,
Mae'r dyn doniolaf yn y wlad
Yn siarad ym Mhlas Eryr.
Yma'r myrdd sy'n diodde cam
Gant amddiffyniad pybyr;
Nid oes i'r fan am nawdd a dry
Un dyn yn rhy ddi—ystyr;
Ac nid oes i'r gwenoliaid bach
Le siwrach na Phlâs Eryr.