Tua'r lle o flwydd i flwydd
Cyfeiria llwydd ei ebyr;
A gwenu ar ei fywyd rhydd
Y mae pob dydd a egyr.—
Na ddeued dim i dorri hedd
Na suro gwledd Plâs Eryr.
MARGED UCH IFAN.
'ROEDD Marged uch Ifan, arwres Pen Llyn,
A'i henw yn arswyd hyd ddyffryn a bryn;
'Doedd neb yn y bröydd a safai o'i blaen,
Na neb daflai belled y trosol a'r maen.
Helyddes oedd Marged, a chwim oedd ei chŵn:
Llwynogod y llethrau adwaenent eu sŵn;
Hi lamai'r gwyllt fannau cyn hoywed a'r hŷdd,
A mawr fyddai'r helfa ar derfyn y dydd.
Gwneud cwch fedrai Marged, a'i rwyfo'n ddi-rith
Hyd Badarn a Pheris, heb ofni tro chwith;
Gwneud pedol a'i durio, a'i gosod dan farch,
A hawlio gan hwnnw ufudd—dod a pharch.
Gwneud telyn a'i chanu a fedrai'r fwyn wraig:
'Doedd dim yn ei chalon yn debyg i graig.
O Marged uch Ifan, hir yma ei thaw—
Gobeithio fod telyn o hyd yn ei llaw!
Traddodiad a ddywed mai bach oedd ei gŵr,
Yn byw dan ei chysgod yn dawel ddi-stŵr,
A hithau heb sôn am na phleidlais na sèn
Yn canmol y gwron a'i llaw ar ei ben.
Brenhines y cwmwd, a mamaeth y mynn,
Oedd Marged uch Ifan, arwres Pen Llyn,
Mor gadarn a'r clogwyn—mor ddewr a di-ffug,
Mor syml ac mor dyner a blod'yn y grug.