Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cathlau Bore a Nawn.djvu/9

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

AT Y DARLLENYDD.

DYMA fi o'r diwedd yn cyflawni hen fwriad. Y mae llawer o'm cyfeillion, o dro i dro, wedi fy annog i gyhoeddi llyfr neu lyfrau o'm cerddi, a llawer gwaith y bu yn fy mryd hwylio at wneuthur hynny; ond gadewais i drafferthion a'r duedd oedi fy rhwystro hyd yn awr. Rhyw ddetholiad rhwydd sydd yma o'm caniadau rhyddion byrraf. Bu rhai o honynt yn "fuddugol" mewn gwahanol gystadleuaethau ("Hwiangerdd y Weddw " yn yr Eisteddfod Genedlaethol, canig a ddodir yma drwy ganiatad Syr Vincent Evans, ar ran Cymdeithas yr Eisteddfod), ond waeth heb nodi y rhai hynny allan un ac un. Ni welodd neb o'r blaen mo'r mwyafrif o'r cerddi sydd yma: bu'r gyfrinach a'r cariad rhyngynt hwy a mi yn unig. Gwnaethpwyd y rhai sydd yn rhan gyntaf y llyfr yn ystod blynyddoedd borëol fy oes, a'r lleill yn ystod y blynyddoedd prynhawnol—y rhan fwyaf yn lled ddiweddar.

Y mae gennyf rifedi mawr eto o ganiadau byrr a hir, rhydd a chaeth, sydd wedi bod hyd yma yn bur ddistaw. Os caf ryw dair neu bedair blynedd eto ar y ddaear, ac os gwelaf fod y llyfryn hwn yn cael derbyniad go siriol, mwy na thebyg y paratoaf i'r wasg ddau neu dri llyfr swllt o honynt hwythau. Bendith ar hwn yn awr i galonnau'r Cymry glân a'i darlleno!