LLYS DINORWIG.
(Cân "Gwyl y Gadair.")
AR lawnt yr hen odidog Lys
Ni ganwn felys gerddi:
Gyrr haul y dydd ei gusan serch
I'r llannerch werdd i'n llonni;
A daw'r awenau bob yn ail
A'u dail i'n hysbrydoli.
O'n hamgylch mae ysbrydion gwŷr,
A rhithion pur rianedd,
Fu yma'n byw yn oesoedd gwên
Yr hen eangfawr annedd;
A'u llonni wnawn â'r iaith a'r hwyl
Fu anwyl gynt i fonedd.
Bu yma sŵn arwriaeth, do,
A gwylio llawer gelyn;
Bu yma ddial llawer cam,
A wylo am Lywelyn;
Ond nid oedd neb ar awr ddifraw
O'r dwylaw yrrai'r delyn.
Mae'r hen lanerchau gylch y fan
A'r bryniau bàn yn aros:
Mae Bryn y Cyrn fu'n seinio'n groch
A choed Cae Coch, yn agos.
A Chraig y Dinas, uwch y byd
I ddengyd, yn ymddangos.
Mae'r hen Elidir uwch y llyn
Yn syllu'n syn yr awron;
Ond prin yr adnabyddid hi
Gan neb o ri'r t'wysogion:
Briwedig yw, a gwŷr y fro
Yn chwilio am ei chalon.