Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cathlau Bore a Nawn.djvu/94

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A thros y dón y daeth yn llon,
A'i obaith ar ddi-hûn;
Ac aeth yn ol yn ddedwydd wr,
A dymuniadau'n haid ddi-stwr
O'i amgylch ef a'i fun.


MEUDWY'R ARDD.

O! HEN bererin llwyd-ddu, cefngrych, tynn,
Ba dynged barodd dy drywanu di,
Ar ol yr hir ymddiried ynof fi?
O'th gudd y daethost lawer gwaith cyn hyn
I syllu arnaf fel athronydd syn,
A minnau'n syn ddyfalu a oedd gri
O fewn dy ddirgel fyd, neu awydd bri,
A beth oedd dan dy araf bwyll di-gryn.
A ydyw'th loes mor fawr a loes fy mron
Anesmwyth i o'th weled fel yr wyd?
A feddi dyb am "ddamwain," brudd neu lon?
A'r rhagor rhwng amryfus wall a nwyd?
Cyn tranc a fedri faddeu'r ddamwain hon
I un a deimla'r loes tra'r cof a gwyd?