Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cathlau Bore a Nawn.djvu/96

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CHARLES GAVAN DUFFY.
(Nora Chesson.)

OCH! Padi gu, a glywaist di y newydd drwg ar dro?—
Na ddyry Duffy mwy mo'i droed ar Werddon dir yw o.
Yr hen ymladdwr, ochanee! mae'n gorphwys yn y clai:
Mae'n rhaid in' gadw'n twrw'n is, mae'n cysgu'n drwm, ddi-go',
A deffry toc yn Nhir-na-n' Og, ymysg y Dedwydd Rai

Och! Padi gu, nid dyn a'i ru ro'i iddo ofn na chwyn;
Cymerai'r garw fyd a'r llyfn mor ysgafn ac mor fwyn
A'r blodyn dan y glaw a'i plŷg a'r haul a'i tyner gwyd;
Ac os daw eto las i'r nen—gall tirion ffawd ei ddwyn
(At dyner liw'r Forget-me-not tyn enw Duffy'm nwyd).

Och! Padi fwyn, nid clod na chwyn a ddeffry'r henwr hael:
Gwnawn lun y groes â thyner law uwchben ei fron a'i ael.
Yn nhŷ caethiwed cnawd y bu, ond yn ei enaid rhydd
Ni chafodd meddwl drwg na pheth orphwyso nos na dydd:
Tynerach cethlwch er ei fwyn, chwi adar cân ddi-ffael.

(CYF.)