Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cathlau Bore a Nawn.djvu/97

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

BEN BOWEN.

O! FOREOL bêr awenydd,
Daethost di a chân mor newydd
Nes creu syndod a llawenydd:
Cenaist nodau wnaeth i wlad
Eiste' i wrando mewn boddhad.

Fel y tlws aderyn hawddgar
Geny yn ei gawell garchar,
Felly canu, felly trydar
Wnai dy alltud awen di
Swn ei gwlad gynhennid hi.

Fel Eolaidd delyn wifrau
O dan wyntoedd ar eu teithiau
O ryw ddirgel iach bellderau,
Seiniai uchel nodau clir
Teimlad rhyw ddieithrol dir.

O! ganiedydd ieuanc grymus,
Adwyth blin na byd gorthrymus
Ni cha'dd lethu'r ysbryd nwyfus,—
Ni cha'dd huddo'r dwyfol dân,—
Ni cha'dd rwystro'r eirias gân.

Yn y rhyddid ar y bannau
Welaist gynt o'r isel—fannau,
Mor wahanol yw y rhannau!
Ac mor berffaith yw dy gân
Yn ei phriod awyr lân!