HENRY RICHARD.
NID rhyfedd fod dy bryd yn drist, fy ngwlad,
A'th ddagrau'n disgyn ar y tywyll fedd
A gudd weledig ran "apostol hedd,"
Fu'n dal ei darian rhyngot a sarhad,
Wnaeth fwy na llu i ennill it' fawrhad
Ag aidd a grym a geisiai siglo sedd
Duw rhyfel, a gwarthnodi swydd y cledd,
Dyn oedd i'r gwan ym mhobman megis tad.
Ond na lwfrhã, er gorfod wylo'n hir,
Mae'th wron er ei guddio eto'n fyw:
Ei ysbryd draidd yn ynni trwy dy dir;
Ehêd ei eiriau beunydd i dy glyw;
Ca'i egwyddorion fuddugoliaeth glir:
O'u plaid mae nerth trag'wyddol orsedd Duw.
MOLAWD GWLAD Y GORLLEWIN.
I.
WLAD y rhyfeddodau bythol,
Wlad y llawn eangder mawr,
Welaist fyrdd o lygaid rhythol
Yn amlygu mewnol ddawr,
Pwy erioed a welsom ni
Allodd roddi teilwng fri,
Drwy gyfrifiad neu ddisgrifiad,
I dy werth a'th fawredd di?
II.
Wlad yr ynni cryf, aflonydd,
Wlad yr egni mawr ei lwydd,
Fel llifeiriad dy afonydd
Ydyw nwyf dy fywyd rhwydd;
Myn'd mae'th bawb a'th bobpeth di,
Myn'd yn gyflym, myn'd yn ffri,-
Myn'd nes rhoddi teimlad boddi
I rai araf fel nyni.