Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceinion Emrys.djvu/11

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Yn mysg seigiau gora'u gwedd,
A gwin uwchlaw digonedd,-
Ei gof a wibiai i dwysg ei fabiaeth,
A'i gnawd a giliai gan nwydog alaeth;
Ami alarai am le ei helwriaeth,
Am ei gorwgl y magai ei hiraeth;
Mal unig un teimlai'n gaeth-y'nghanol
Y seigiau hudol, moes a dysgeidiaeth.
Cwyd, fy nychymyg hudol,
Dos yn hyf hyd oesau'n ol;
A gwel yn mysg eu gâlon,
Bobl lesg draw yn Babilon;
Hebreaid pell o'u broydd
Yn amlhau dagrau bob dydd.
ISRAEL ddewisai'r Ion,
Iddaw yn brif weinyddion;
Rhoes gynyrch y fras Ganaan,
A mawredd rhyfedd i'w rhan;
Yn ngwlad Judea dawel,
Yn mysg gwin a llaeth a mêl,
Dan gysgod enwog asgell
Y Duwdod, pa gysgod gwell?
Ond am au dduwiau yr ymddyheuent,
Trwy eu halogrwydd y tir a lygrent;
Eu Duw ni wrandawent-yntau ddigiodd,
A'i lid a'u gyrodd o'r wlad a garent.
Gyrwyd y genedl ddigred o Ganaan
I fawr galedi'r Babel friglydan;
Rhwymwyd yr iau ar Ephraim, druan,
A'i dyner hawddfyd a droed yn ruddfan;
Gwg Caldeaid a'u gogan-a'i poenodd,
A cholynodd ei hen uchel anian.
Wedi'u darostwng yn dlawd i dristwch,
Adfywiai hiraeth ac edifeirwch;
Gwelwyd gwir flam GWLADGARWCH-yn llosgi,
Awydd addoli mewn prudd eiddilwch!
Lle'r hoff red lli'r Euphrades,
Gan iachau gruddiau y gwres,
Y gwelwyd gwr twymgalon,
A chudd friw yn chwyddo'i fron;
Henadur glan ei nodwedd,
Llwyd ei wisg, trymllyd ei wedd,
Yn eistedd mewn dwfn osteg,
Ar fin dwfr yr afon deg.
Q