Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceinion Emrys.djvu/12

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Y gwawl oedd ar ymgladdu
Dan fentyll y dyfnwyll du;
Ciliai cwsg i'w wely cudd,
Oddiar ei ddyfrllyd ddwyrudd!
Ei farf oedd hagr gan ddagrau,-a'i wynwallt
Yn wylltion gydynau,
Mewn hiraeth am hen oriau
A chwalwyd fel breuddwyd brau.
Deilliai o'i deimlad allan
Ei gur twym mewn geiriau tân:-
"Ofy ngwlad, gwlad y gwledydd,
Goror deg! a wawria'r dydd
Im' weled SALEM eilwaith
O fewn hon ar ben fy nhaith?
Pa bryd y daw hyfryd hwyl
I'n hen delynau anwyl?
A ddaw fy neheulaw hon
I dlws wau odlau SEION?
Wyf heddyw yn cyfaddef
Uniawn yw barnau y Nef;
Ac am ein ffyrdd ceimion, fiol,
Haeddasom gerydd oesol;
Ti, O DDUW, ro'ist addewid-
Bwrw dy law-byrha dy lid.
A raid i'n llwch llygredig
Orwedd dan dy gerydd dig,
Yn naear yr annuwiaid-
Gwely oer mewn halog laid?
Ow dlotaf drymllyd lety,
Dan draed dy hen wawdwyr hy'!
O! na chawn yn nawn einioes,
Fan mwyn i derfynu'm hoes;-
Marw a'm pen ar obenydd,
O fewn yr hen drigfan rydd.
Bryn Seion a Hermon hy
Fo'ngolwg cell fy ngwely.
O! fy enwawg freintiawg fro,
Ow! na chawn lechu yno-
"O fewn yr ogof hòno-lle mae 'nhad-
Lle mae 'nheidiau'n huno;
Lle'n hir y cedwir mewn co'-dihalog,
Y rhesi enwog o rai sy yno.
"Doed y dydd i'n dedwyddu
O swn gwarth, yn Seion gu;
Dy hiraethlon weision, Ior,
A garant ei theg oror.
Q