"Hoffi ei meini mwynion,-a'i lludw,
Mae'th drallodus weision;
Rhyw ddedwydd fyr freuddwydion
Yn barhaus a'i dwg ger bron.
"Arglwydd mwyn! erglyw ddymuniad-dy bobl,
Doed barn i derfyniad;
Dwg ni'n fyw hyd Ganaan fad,
I gael boddhau'n disgwyliad!
"Doed BEL dan isel wanhad,-bydd ei fedd
I Dduw'n anrhydedd, i ni'n warediad."
11
RHAN II.
Gwladgarwch yn cael ei dwyn i'r golwg yn ymdrechiadau cenedloedd am eu
gwlad a'u rhyddid-Groeg-rhuthr y Persiaid-Marathon-yr Atheniaid
yn croesawu y buddugoliaethwyr yn ol-ail ruthr y Persiaid-Xerxes-
Leonidas-Thermopyle-dinystr Persia yn Salamis-Plate, Mycale-gor-
foledd Groeg-y Rhufeiniaid-Switzerland-William Tell-Ysgotland-
Wallace a Bruce-yr Amerig--Washington-Hungary-Poland-gweddi
am eu rhyddhad-Cymru-darluniad o'r wlad-dyfodiad y Rhufeiniaid-
Caswallon-Caradawg-Buddug-Normaniaid, &c.-gwasgu y genedl i
Gymru Iorwerth I.-Llewelyn ap Gruffydd-ei farwolaeth-ymdrech
diweddaf Cymru-Owain Glyndwr-terfyniad y rhyfel rhwng Lloegr a
Chymru-undeb y ddwy wlad yn lles-Victoria-Tywysog Cymru.
AMLWG yw gwladgar deimlad
Y gwŷr glew sy'n gaerau gwlad;
Mwynhad i'm hawen ydyw
I alw fel i ail fyw
Yr hen wlad-noddwyr hynod
Fu'n cario cledd-fu'n creu clod;
Bu'r fath ffyddlon, hyfion wŷr,
Drwy'u hoes yn nod i dreiswyr.
Yn dra hoenus y rhodia'r awenydd
Drwy hen oesau'n ôl troed yr hanesydd;
Gwel sigliadau peryglus y gwledydd,
Er gwarth i rwymau, a gwae'r gorthrymydd;
Gwel yr awen goronau ysblenydd,
A chlod gorau pob dewrwych wladgarydd,
A chan serch eu henwau sydd-fawledig,
Yn ddiogeledig mewn myrdd o glodydd.
Cariad at wlad sy'n hèrio tylodi,
Gwthia'r goludog i uthr galedi;
Gwelwyd gwŷr enwog o wladgar yni
Yn rhuthro i wyneb cur a thrueni;
Q
Tudalen:Ceinion Emrys.djvu/13
Gwedd
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto