Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceinion Emrys.djvu/14

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Rhianod tyner a garant weini
Eu tud a'u cenedl yn ystod cyni;
Y plant a frysiant am fri!-hen wŷr llesg
A droir i eres gadr arwri!
Tir GRYW, lle trigai'r awen,
Ar ein byd fu'n hir yn ben,
Meithrinai rym athroniaeth,
Y ddawn fwyn ga'dd yno faeth;
GWLADGARWCH! gwel dy goron
A'th hanes yn hanes hon.
Rhuthrai'r Persiaid yn haid enynedig
I ddifrodi'r hen Athen ryddfrydig,
I ddwyn ei meibion yn weision ysig,
A dwyn ei doethion dan iau adwythig.
Maes MARATHON sy'n hòni
Hawl i fraint anfarwol fri;
Dyrnaid o wŷr cadarnwedd
Yn fyw am ryddid neu fedd;
Yn bylchu rhengau'r beilchion,
A chario brath chwerw i'w bron!
Y giwdawd gyflogedig
Wywai dan eu rhuthrau dig;
Yn dlawd lu mewn gwaedlyd laid,
Rhoed anwariaid aneirif;
A'i llu claf yn weddill cledd,
Yn ol yn llawn o waeledd.
Bloedd ar floedd chwyddai'n orfoleddus,
"Rhyddid! rhyddid i'n mamwlad fawleddus;"
Sain hir y floedd soniarus-fel mellten,
Hedai hyd Athen drwy'r nen enynus;
Nes oedd y dinasyddion
Yn llawenhau oll yn hon;
Allan aent yn llawen oll,
Yn dorf i gydwneud arfoll.
I'r rhelyw o'r gwrolion-y lluoedd
Fu'n llywio Marathon,
Heb un llwfr, doent bawb yn llon
Yn ol at eu hanwylion.
Y teg rianod hygar,
A gwên ar bob gwyneb gwar;
Ymrysonent mor swynawl
I wau eu hemynau mawl.
Q