Un yn unig o honynt
A ffödd i adrodd yr hynt!
Daeth lluoedd Xerxes, y balch ormesydd,
I greu galanas drwy Groegia lonydd;
Llosgwyd Athen ysblenydd-yn eu bar,
Dial a galar yn dal eu gilydd!
Teithio'r oedd, ond daeth er hyn
Ei flin dwrf i lawn derfyn;
Ust! âlon, pa drwst helynt
A gerdd ar esgyll y gwynt?
Pa ryw hir, gamp arwyrain
Sy o gylch Salamis gain?
Pa rudd wedd sydd yn pruddhau,
Gwyneb y dwfn eigionau?
Dy waed, O Bersiad, ydyw,
Diwedd tost dy ymffrost yw!
Dydd erchyll, tywyll Plate,
Ac eilwaith yn Mycale,
Roes Persia 'n druan dan draed,
Yn ei gwaed halogedig!
Gwthiwyd y teyrn bygythiol,
O dan warth, i'w wlad yn ol!
Ymloewai Groeg, teimlai 'i gradd,
A theimlai 'i nerth i ymladd!
Mir awel y Morea
Oedd yn dwyn newyddion da.
O for i för, difyr a fu-y chwedl,
Godai y genedl i gydganu.
Parnassus, barchus ei ben,
A llu o'r bryniau'n llawen,
Wrth edrych ar wych wawr-cartref rhyddyd,
Digon a hawddfyd y wlad gynyddfawr!
Bu gan RUFAIN gain yn ei gogonedd,
Ddewrion wroniaid, dan addurn rhinwedd,
Gwŷr calonog i hèrio celanedd
Holl rym y gwersyll, a'r emawg orsedd;
Gwŷr di-drais, gwŷr di-drosedd-yn hysbys,
Eu mawl hir erys yn nheml arwredd.
Pwy a rif gampwyr hyfion,
Ymleddynt am lwyddiant hon?
Y wlad a garent uwchlaw clod geiriau,
A ddysgodd o'i bodd i wisgo'u beddau;
Eu trafferth, eu gwerth, a'u gwyrthiau-mawrion,
Geir yr awron ar lyfnion golofnau.
Q
Tudalen:Ceinion Emrys.djvu/17
Gwedd
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto