Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceinion Emrys.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Ac enw Bruce heddyw sydd.
Drwy y wlad ar aelwydydd;
Tra bo Ben* uwch ben y byd
A dwfr yn y Glyde hyfryd,-
Hoffa'r Scotiad drumau'i famwlad,
Gwlad ei gariad-gwlad ei geiri-
Sonia'n ddifyr am wladgarwyr
A fu'n noddwyr eofn iddi.
Tra golcho'r môr ar lànau'r Amerig,
Cofir rhyddhad y wlad ucheledig;
O mor frwd oedd Washington mawrfrydig,
I dori'n chwilfriw iau cedyrn uchelfrig;
Rhoddaf fawrhad i'r llywydd rhyddfrydig-
Dyn hynaws, a'i glod yn ansigledig;
Adsain ei lwyddiant hwnt i'r Atlantig
Ddeffroai, daniai'r hen Lew Prydeinig,
Diweddodd teimlad addig-y ddwy wlad,
Heb un annodiad sy'n byw'n unedig.
Ow'r hen Hungaria anwyl-
Ow! adfyd, penyd y Pwyl!
Diareb oedd eu dewredd,
Yn traethu clod, trwy waith cledd;
Er i waed yn hir redeg
Yn foroedd drwy'r tiroedd teg,-
Dygai brad gwobrwyedig,-y ddwywlad,
I eiddilwch ysig;
I drist wedd, o dan drais dig,
Haiarnaidd dreiswyr ffyrnig.
Clyw, O DDUW, fy Nuw, fy NAF,
Gwel, Ion! o'th flaen y gliniaf!
Ai'n ofer, ofer i'r nefoedd-0 Dduw!
'R aeth gweddiau pobloedd?
Dial, nac atal ar g'oedd
Ar sarhaus drais yr oesoedd!
Par rwydd hynt, a thymp rhyddhad,
O eiddilwch i'r ddwywlad;
Gwaedd y teyrnasoedd gweddwon,
Y Duw fry, doed ger dy fron!

  • Ben Nevis.

Q