Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceinion Emrys.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

"Fy Mrython dewr galon, o'm blaen gwelaf
Ein pwysfawr âlon, pwy saif wrolaf?
Yr anhalog waed ddiferyn olaf,
Redo'n frwd dros ein Brydain hyfrydaf.
I'r hynt o'ch blaen yr äf,-y cyrn chwythwch!
Ac ymwrolwch-dydd Cymru welaf!"
I'r gad y rhuthrent fel llif cornentydd,
Tyn oedd pob gewyn gan lidiog awydd,
Y taeog âlon rwygent eu gilydd
Yn ddiorphwysiad nes rhuddo'r ffosydd!
Y fantol drechol a drodd,
Arfeiddiawg drais orfyddodd;
Rhengau'r Brython, noethion wŷr,
Rwygwyd o flaen llurygwyr;
Egr frath mewn aml wladgar fron
Wnai'u llafnau miniog llyfnion.
I'r bedd rhuthrai Buddyg-yr arwres,
O law du ormes, rhag teimlo'i dirmyg.
Trymhawyd, rhwymwyd yr iau,
Yn dynach rhoed cadwynau,
Cynllunio, brwydro a brad-
Mwy o ymladd drwy'n mamwlad
Fu, nes i Rufain ysig
A llaw bres gael dryllio'i brig.
O Rufain! Rufain! pa ryfedd-i'r Nef
Droi'n ol dy anrhydedd;
I'th fwrw i lawr o'th fawredd,
A dwyn clod dy enwog gledd?
Scotiaid a Brithiaid brathog,
Plant Saxon a'u lluon llog,
Normaniaid yn danbaid wŷr,
A chalonog Lychwynwyr,
Yrent yr hen frodorion
Trwy drawsder, dan brudd-der bron,
Yma i ran lom o'r hen wlad,
I drist ing darostyngiad!
Och! och! ddydd o dywydd du,
Ac amrith loes i Gymru,
Pan ydoedd Iorwerth gerth gynt,
Yn ngyrfa ei gyngorfynt!
Diwrnod o drallod a roes
Egr ergyd y gwr hirgoes;

  • Rough.

Q