Ar y gwellt sy'n gwisgo'r gwys-dod ddagrau,
Yr unig emau a geir yn gymhwys!
Chwi wŷr llen, sy'n parchu'r llwch;
Ei fyw aidd cydeilfyddwch.
Chwi'n hygar dir berch'nogion,
Sy am lwydd ein gwlad seml hon,
Mawrhewch y Cymro uchel-
Ceisiwch, deisyfwch ei sel.
Mawr yw'ch braint, Cymru yw'ch bro,
Och! a raid i chwi wrido?
A raid i'n heniaith rydu,
Dan flug wên eich dygen du?
Yn eich nawdd a'ch aneddau-mawrygwch
Gymreig arferiadau;
A'ch rhoddion a fyddo'n faeth,
I athroniaeth a rhiniau.
Y gonest Ieuan Gwynedd!
Er ei fwyn cerir ei fedd.
Ieuan, fy Ieuan anwyl,
Ei gofio sy'n hawlio hwyl.
Enw'r Gwladgarwr gorwych
I lawer rydd newydd nych.
Ei orddwfn sel angerddol-fyrhaodd
Ei frau einioes farwol;
Bu i'w wlad hoff' yn bleidiol-hyd angau,
Trwy wawd a phoenau fel twr diffynol.
Gwae oedd i'r gwr gyhuddai
Ei fro fwyn o ryw fawr fai,
Trwy ystryw plant yr estron,
A rhai o lwyth Cymru lon.
Rhyw dri o wŷr roed ar waith,
I'n trywanu trwy weniaith,
Llafurient, a'u holl fwriad
Oedd mwyhau gwaeleddau'r wlad,
Anurddo'n glewion o glod,
A rhinwedd ein rhianod.
Gwelai Ieuan y gâlon,
Llanwyd, gwefreiddiwyd ei fron;
Diffynai ei wlad hoff yn lew,
A throed i wawd athrod dudew.
Eneiniog blentyn anian,
Bywiog oedd, a mab y gân;
A thrwy'i boen, ar drothwy'r bedd,
Mwyn ganai'm Ieuan Gwynedd;
Q
Tudalen:Ceinion Emrys.djvu/30
Gwedd
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto