Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceinion Emrys.djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Pwy byth a wed pa beth oedd,
Ai nod o lin Ion ydoedd
Ar ryw gelyd drigolion
Fu ar y ddaear hardd hon?
Dial Ion mewn dylanwad,
Yn ysu'r holl ddwfn sarhad;
Sef ôl rhyw oesau a fu,
Filoedd yn gwrthryfelu;
I'w phuro'n gorff o ran gwedd,
Yn gain yn mhob gogonedd;
Dyddiau y cread oeddynt,
Chwe' diwrnod hynod eu hynt.
Y dydd cyntaf Naf a wnaeth
Y llinell o wahaniaeth,
Rhwng yr erchyll wyll di-wên,
A llewyrch goleu llawen;
Lleni y goleuni glân,
O'r gwyll a rwygai allan,
Nes y daeth yn nos a dydd,
O law'r anfeidrol Lywydd.
I'r hyll wyll tro'i'r ellyllon
Yn haid ar amnaid yr Ion.
Ysbrydion duon a ymadawent,
O flaen y goleu'n filiwn hwy gilient!
Bronau hen ddreigiau ymgynddeiriogent,
I'w bythol flau'n anobeithiol floent,
Yn arw, â thwrw y bytheirient,
Eu du gableddau-llidiog y bloeddient;
I ganol gwyll disgynent-yn ddigllon,
Angylion doethion a Duw felldithient.
Yr ail ddydd rheolodd Ion
Yr awyr a'i hamrywion;
Mantolodd, rhodd i bob rhan
Ei fanwl ddeddf ei hunan;
Y Duw mawr a'i cymysgai'n dymherus,
O wahanol ansoddau enynus,
Yr Ulai afreolus-a'r Blawrai,
Gydbwysai â'r Ufelai 'n ofalus.
Rhwng dyfroedd a dyfroedd daeth
Yn gaer o fawr ragoriaeth.
Cadwai ef ddyfroedd y moroedd mawrion
Rhag i drachwant eu cynddeiriog drochion
Ruthro'n llidiog o'u gludiog waelodion,
Q