Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceinion Emrys.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Yn boen a dinystr i feibion dynion;
I wneud drych ein daear hon-fel du fedd,
Neu ail i anedd lawn o elynion.
Yna daeth y trydydd dydd,
A Ior roes ei leferydd,-
"Prysured, tored tiroedd yn llwyr oll
Ar wahan o'r dyfroedd,
Ymadewch ac ewch ar g'oedd,
Yn llawen tua'ch lleoedd."
Ar hyn clybuwyd gerwin ddryghinoedd,
A rhwygo'r entyrch wnai rhyw gorwyntoedd;
Yn ddiymaros rhuthrodd y moroedd
Tua'r gwaelodion, eu trigle ydoedd;
A deilliai pistylloedd-chwyrn, tryloewaf,
Am yr ufyddaf i Naf y nefoedd.
Oesol fynyddau a sylfeini iddynt,
Dan ryw ysgydwad yn rhes a godynt;
Ynysoedd at eu gilydd a nesynt,
Bryniau cribog ardderchog a ddyrchynt;
Y'mhell ac agos yr ymddangosynt,
Gwledydd addien o'r cymysglaid ddeddynt;
Y dolydd hyfryd elynt i'w lleoedd,
Gwaith eu Hawdwr oedd yn goeth, goeth drwyddynt.
Rhedai y gloewon afonydd-mawrion
Tua'r môr yn ufydd;
Gwrid y wawr hawddgar derydd-ar eu lli'
Nes bywiol loni eu drych ysblenydd.
Yr hyfion reieidr hefyd,
Ruent yn uwch, uwch o hyd;
Mynent eu ffordd drwy'r meini-cauedig,
Codent hwy fel gwegi;
Agenent y clogwyni
I'r llawr i wneud llwybr i'w lli!
Eu chwyrn lifeiriant ffyrnig-i'r eithrin
A ruthrai'n ferwedig
Chwalai fron, dymchwelai frig,
Y graig gadarn grogedig.
Gan ruo a neidio'n wyllt
O'r bryn i'r llyn digllonwyllt,
Adsain stwr y dyfnddwr du,
Barodd ateb o'r ddeutu.
Q