Gan ddangos ei dlos wisg dlysog-a'i ben,
Ysgydwai'i aden mewn rhwysg godidog.
Y droedweog wydd, a'r twrci chwyddog,
A'r golomen lawen symudliwiog,
Yr hwyaden fèr droediog-a phob llin
O'u diofn fyddin yn cydfyw'n foddog.
Rhai ar gopau creigiau crog
Yn byw'n y gwynt chwibanog;
Chwifio'n rhydd uwch ofn yr aig,
Uwch aelgref uthr uchelgraig;
Neu'n eistedd ar ddanedd hon,
Ar nawn, yn llu bronwynion,
A'u trydar toredig-yn adseiniaw
I gellau didaw y graig holltiedig.
Neu'n disgyn ar edyn rhydd,
Yn awyr y byd newydd;
I nofio'r môr, fawr a mân,
Yn hoenus yn eu hanian;
Neu suddo i geisio'n gyson
Eu pryd a ddarparai lon,
Ddosbarthai'r gweddus Borthwr,
Ym mwydgell dywell y dwr.
I'r awyr yr eryr aeth,
Gwelai ef ei ysglyfacth,
I'w nyth yn syth y saethai
Trwy'r nen, hollti'r awyr wnai;
Ar bob perchen aden aeth
Fry i nen y frenhinaeth.
Yn y rhestr y tal estrys,
Drwy y fro rodiai ar frys;
Balch oedd o'i blu chwyddog-syth y rhodiai,
Fry y gorddyrchai ei frig ardderchog.
Ar y llyn mewn dwr llonydd,
O dan frig crogedig wŷdd,
Yr alarch hawddgar hwyliai,
A difyr hyd y dwfr äi;
Addolai'i hardd ddelw ei hun,
A'i llun mewn dwr a'i llonai.
Chwyrndeithio, troellwibio'n haid,
Mewn hwyl wnai'r chwim wenoliaid,
Q
Tudalen:Ceinion Emrys.djvu/41
Gwedd
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto