Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceinion Emrys.djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Parai'r Duw mawr ddystawrwydd-ataliwyd
Pob telyn yn ebrwydd;
Pawb yn uno i wrando'n rhwydd,
Ar hirglod air yr Arglwydd,-
"Dyrodded daear heddyw,
O bob creaduriaid byw,
Oll yn eu rhyw, llanwer hon,
A'r hiliawg amrywiolion;
Yr ymlusgiaid, anifeiliaid,
Yn fywiolion;
A bwystfilod, lluon hynod,
Oll yn union."
Ar hyn y ddaear hynod
Wisgai newydd, newydd nod;
Gerbron agorai ei bru,
Yn ddiatal o'r ddeutu,
A'r prysur greaduriaid
Yn codi o honi'n haid.
Rhai oedd yn chwarau yn rhyddion iach roedd,
Ac äi degau i rodio'r coedwigoedd;
Rhai ar eu torau yn myn'd drwy'r tiroedd,
Ac eres lywiai rhai tua'r corsleoedd;
Ai rhyw lu i'r pawrleoedd,-a heidiau
Am eu laneddau tua'r mynyddoedd.
Y llew melynddu blewog,
Newydd a glan oedd ei glog.
Ysgydwai'i fwng cysgodol-a rhodiai'n
Greadur brenhinol;
Dros bob bryn, dyffryn a dôl,
Chwareuai'i lais crochruol.
Y cawrfil uthrwane erfawr,
Oedd yno yn llwybro'r llawr;
Gan estyn y duryn du,
At ei borthiant i'w barthu;
Torai flys ei felus fant
Ar lysiau er ei lesiant;
A'r rhai a f'ai wrth ei fodd,
A ddoeth-hwylus ddetholodd.
A'r march anhafarch nwyfus-a neidiai,
Mewn nodwedd tra champus;
Ffroenio gan brancio heb rus,
Yr oedd yn dra mawreddus.
Q