Holl natur oedd fel telyn-llawenydd
Yn llanw pob llinyn;
Ond heb law hylaw er hyn-i wau clod
I'r Duwdod ar ei pharod offeryn.
Duw hael ddywedai eilwaith,
Fel hyn yn ei ddwyfol iaith,
"Gwnawn ddyn yn ddernyn addurnawl-yn ben
Pob bod iswybrenawl;
Dyn à medr i ledu'n mawl-mewn meddiant
O raglawyddiant a dawn arglwyddawl.
Ar ein llun a'n delw ein hunain-yn ben
Ar bob perchen adain-
Ar holl heidiau'r deifr llydain,-ymlusgiaid,
A'r anifeiliaid hygar neu filain."
Yna'r dyn a rodiai yno yn dàl,
A delw Duw arno;
Heb baid, o'i lygaid siriol o-y daeth
Tân o wybodaeth yn tanbeidio.
Y dyn! y dyn dianaf!
Oedd lawn urdd ar ddelw ei Naf;
Onid oedd gelynion Duw,
Adeiniog ddiafliaid annuw,
Dan gynhyrfiad teimlad dig,
Gan bryder gwŷn berwedig?
Wrth ganfod llawn berth Gwynfa-a'r addurn
A roddwyd ar Adda,
Llunient, pan heidient yn ol,
Idd ei fythol ddyfetha."
Angylion gwynion a gyd-ddisgynent,
Yn yr awyr o'i gylch y chwareuent;
Yn iaith ysbrydion noeth y sibrydent,
Arno'n addoli a moli ymwilient,
Ac yna esgynent-fry i'w helfen,
Am Eden lawen o hyd chwedleuent.
Dyn wnaed yn fod eneidiol,-yn gadarn
Gydiad priodasol,
Rhwng dwy anian wahanol,
Ef a ddaeth yn rhyfedd ddol,
Rhwng naturiaeth yr angel-puredig,
Sy'n ysbryd aruchel,
Q
Tudalen:Ceinion Emrys.djvu/45
Gwedd
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto