A rhes y natur isel-ddistadlaf,
A ddyrai y Naf idd yr anifel.
Dyn a wnaed o anian i
Ddilyth a syml addoli,
I lawn dreulio ei einioes,
I foli y Rhi a'i rhoes.
Yr holl greaduriaid di ri'-ddaethan'
Yn dyrfa allan i'w gydarfolli.
Tueddent oll at Adda-yn lluoedd,
O'r llew i'r distadla';
Eu henwi wnaeth yn eitha'-priodol,
Wrth reol Ddwyfol a rodd Iehofah.
Yno'n chwanog y rhoddent warogaeth,
Hwylus i'w banawg ddynol isbenaeth,
Addunent yn ddiwahaniaeth i'w llyw,
A'i wir ddiledryw urddol lywodraeth.
Amnaid ei lygaid a'i law,
Oedd yn eu cyfarwyddaw.
Ebai Duw, "Nid da bod dyn,
Greadur hawddgar hydyn,
Yn Ngwynfan ei hunan heb-ymgeledd
I loewi'i anedd a'i siriol wyneb."
Ion a roes yno'n rasol,
Gydmares i'w gynes gôl;
Efa lwys yn Ngwynfa lan
Roed i Adda'i gwr diddan,
I rodio drwy Baradwys,
Eu bro glyd, a'i llwybrau glwys;
A chydlawen chwedleua,
Gan ddilyn rhyw destun da;
Heb un clwyf, nefolbwnc glan,
Am Dduw oedd eu hymddiddan;
Gwibiai'r ddau drwy demlau dail,
Blodeuog, goediog adail;
Ara' ddwr oedd eu hardd ddrych,
I'w fin yr aent yn fynych,
I wel'd eu llun eu hunain,
A chanfod pob cysgod cain;
Wrth fwynhau yr oriau hyn,
A'u mwynhad fel mynydyn,
Y dydd glwys, dedwydd a glan,
Ddiangai yn ddiyngan;
Q
Tudalen:Ceinion Emrys.djvu/46
Gwedd
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto