Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceinion Emrys.djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Myn'd yn ddistaw, llithraw'n llon,
Fel niwl o flaen awelon.
Gwelodd Naf, Arglwydd nefoedd,
Ei waith i gyd, a theg oedd;
Gwnaeth yr harddbryd fyd heb fai,
A dywedai mai "da ydoedd."
Rhyw sain enynai'n y nef,
Melyslais mewn aml oslef.
Meibion Ior ar eu gorau-gyweirient
Ragorol ganiadau;
Rhes hir o bur ser y borau,
Yno heb rif yn hir barhau.
Cywir ro'nt i'r hwn fu'n creu-yn gyson
Eu mawl o galon ar gwmwl goleu.
Parhau y mae deddfau'r dydd,
Ein lluniaeth a'n llawenydd;
Yr haul sydd yn rheoli
Pob dydd o newydd i ni;
Hithau'r lloer lathr a'i llu,
Ar y nos sy'n teyrnasu.
Parhau o hyd y mae darpariadau
Y Duw mawr yn y cyson dymhorau;
Fe nodir eu trefniadau yn gywraint;
Diaflerw beiriaint fel hwyr a borau.
Y Gwanwyn a wisg wenau,
Mewn llawn nwyf mae'n llawenhau;
Yn y Gwanwyn y genir
Prydferthweh, tegwch ein tir.
Yr amrywiog flodau bywiog,
Eu goludog frig a ledant.
A'u sawrau a brysurant,-drwy y nen,
Yn chwai ar aden y chwa'r ehedant;
A charuaidd chwareuant,-mewn purdeb,
Bywhad hyd wyneb y byd a daenant.
Yna'r mwyn wanwyn mewn hedd,
I'r Haf a dawdd yn rhyfedd;
Siglo'n dawel dan yr awel
Dyner rywiog,
Mae meusydd meith toreithiog-gwair ac ŷd,
Heblaw y diwyd goedydd blodeuog.
Q