Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceinion Emrys.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Dilyna'r Hydref hefyd,
A defnydd da bara'r byd;
Yn cario ei enwog goron-a roed
Gan Greawdwr ffyddlon;
Y coronau cywreinion,
Diwerth ynt i gyd wrth hon.
Pa ryw deyrn, neu gampwr da,
Fyth garia y fath goron?
Minir y crymanau-allan yr ä
Llawn res o bladuriau;
Gwilio'r adeg casglu'r ydau
O forau i hwyr heb lwfrhau.
Yna daw y du Auaf,-ei oerni
A'i hirnos yn araf;
At y tân eto tynaf-rhag anwyd,
Mynwes yr aelwyd yw'r man siriolaf.
Daw'r ia oer, y llwydrew arian-a'r ôd,
Puredig dros anian;
Rhy drwm yw i'r adar mân
Daro sill fedrus allan.
Daeth stormydd yn dywydd du,
Swn brochus i'n brawychu;
Trymha eu dinystr, ymdaenant,-coedydd
Cedyrn a ddadwreiddiant;
Y digllon eigion rwygant,
Ewynu ei dònau wnant.
Du echrys ofn a dychryn,
A ddaw o'r tymhestloedd hyn.
Fel hyn rhedant eu diflin rodau,-deall
Eu Duw mae'r tymhorau;
Yn eu pryd maent yn parhau,
Yn ddilynol ddolenau.
Weithiau crasder, sychder sydd,
Ar y maes yn ormesydd;
(Da oll er nas deallwn,
Ydyw'r holl gyfyngder hwn;)
Dihoeni mae pryd anian,
Och'neidio gan wywo'n wan;
A'i thylwyth hi a welir,
Ar frig rhostiedig y tir,
Q