Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceinion Emrys.djvu/49

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Yn eu dychryn yn dechreu
Am ddwr i gydymddyheu;
Nes ochain gan eu syched
Ar lawr, a'u genau ar led;
O'i diriondeb Duw wrendy
Lef y rhai'n o'i breswyl fry;
A gair y trugarog Ion,
Duedda'r sugniedyddion
At ddwfn drysor y môr maith,
Yn gyson ar negeswaith;
Dwfr yn awr gwyd â'i fawr nerth,
Drwy offer llyfn didrafferth;
Y Crewr mawr a'i croewa,
A'i fwrw'n ol yn groewddwfr wna;
Amlhau wna cymylau nen,
Hyd lwybrau'r dawel wybren.
Am wlawon mae'n ymliwiaw,-mor ebrwydd
Mae'r wybren yn duaw;
Hyfryd ddwfr o hyd a ddaw-heb balldod,
Yn fuan gawod ar fyd f'ai'n gwywaw.
Ac wedi y cawodydd,
Yr enfys wiw seithliw sydd,.
A roddwyd yn arwydd da,
A'r iach entyrch rychwanta;
Gwenau yr haul digynhwr'
Yn chwareu rhwng dafnau dwr;
Lliwiau anian seirian sydd
Yn y gwawl gyda'u gilydd;
Hysbys y dengys ei Duw,
A dialedd y diluw.
Hyfryd iawn ar forau dydd
Ar adeg yr ehedydd,
Yw rhoddi tro drwy'r fro fras,
A chwardd mewn gorwych urddas;
I wel'd deddf esgoreddfa
Y wawr hoen ar forau ha';
A gwel'd y gwlith gloewdeg glan,
Ar wyneb hawddgar anian;
Y blodau a'r llysiau llon
A geir dan ddysglaer goron;
Maethol iawn yw'r esmwyth wlith,
A'i fwynder sydd yn fendith;
Dyry nôdd i'n daear ni-yna 'mad,
Wedi ei mwydo drwyddi;
Q