bys iddo. Synfyfyriai ei enaid ar y ffaith, nos a dydd. Efe a welai yn y weithred, y dymuniad nad oedd ganddi nerth i'w adrodd mewn geiriau; a chan benderfynu na throseddid mo'i dymuniad olaf, efe a orchymynodd ddodi ei chorph yn yr arch heb symmud y lloced o'i llaw.
Y mae yn hawdd dychymygu na fuasai amgylchiad mor hynod yn dianc heb fod yn destun llawer o siarad; ac fel nad esgeulusir y manylion yn y cyfryw amgylchiadau un amser, crybwyllid yn y chwedl am werth tra mawr y tlŵs, yr hwn oedd wedi ei addurno â gemau.
Yn mysg eraill, daeth y chwedl yn hysbys i glochydd yr eglwys, yn yr hon yr oedd beddgell y teulu; ac ni bu ef yn hir yn dychymygu cynllun, trwy yr hwn y gallai ef feddiannu y tlysau claddedig, y rhai a ddysglaerient mor hudolus yn llygad ei feddwl. Nid ydwyf yn meddwl y buasai ef yn rhagfwriadu lladrad cyffredinlladrad a allasai niweidio un creadur byw; na, er ei fod mewn masnach, ni wybuwyd erioed ei fod ef yn euog o gyflawni y troion anonest oeddynt yn arferedig gan rai yn yr un alwedigaeth âg ef. Yr ydoedd yn ddyn caredig a diniwed; ond prin y gallai amgyffred y synied a ordeiniasai i'r arwyddion cariad hyny gael gorwedd yn gyssegredig, ansymmudadwy, ar fynwes farw. Yn ei farn ef, gwastraff ffol ar drysor ydoedd; ni allai fod yn un niwed iddo ef gymeryd meddiant o'r cyfryw: ac am hyny, efe a benderfynai fyned i'r ddaiargell ar noswaith yr angladd, agoryd yr arch, a symmud y tlysau. Yr oedd yr eglwys mewn sefyllfa fanteisiol er cyflawniad ei amcan, gan ei bod encyd o ffordd oddiwrth y pentref i'r hwn y perthynai, yn adeilad wrthi ei hun yn nghanol caeau.
Gan hyny wele ef yn nhywyllwch y nos, a'i lusern gydag ef, wrth borth yr eglwys annghysbell. Y mae yn ei ddadgloi, ac yn myned i mewn. Teimlai ryw iasau o arswyd yn ei feddiannu ar y cyntaf, gan y dystawrwydd marwol a deyrnasai yn y lle,-yr arogl oeraidd ddisymwth, mor wahanol i'r awyr nawsaidd oddiallan, a'r eisteddleoedd gweigion yn sefyll yn y cysgodion godywyll, fel rhyw gilfachau pruddglwyfus ac erchyll. Yr oedd natur ei swydd wedi ei wneyd yn hollol adnabyddus â'r adeilad, ond nid oedd wedi gwisgo y meddyl-ddrych o'i chyssegredigaeth o'i feddwl; ac efe a grynai wrth feddwl mai dyma y lle yr oedd ef i gyflawni y weithred gyntaf yn ei oes, y buasai arno gywilydd ei haddef. Fel yr oedd efe yn myned ar hyd yr eglwysrawd, a'i lusern yn ei law, dysgleiniai y beddfeini gwynion ar y muriau, fel pe yn edliwiol arno, y naill ar ol y llall; ac ychwanegid cyffro ei feddwl gan ystlum, a ymsaethai heibio i'w wyneb. Yr oedd bron dechreu edifarhau am ei fod wedi dyfod yno ar y fath neges; er hyny elai rhagddo tua beddrod y foneddiges.
Wedi dodi ei lusern ar arch gerllaw, efe a aeth rhagddo gyd a'i offerynau i ryddhau clawr yr arch a geisiai, yr hyn a wnaeth efe yn fuan. Ac yn awr oedd y fynyd gyntaf o anmhenderfyniad a braw gwirioneddol. Yr olwg ar y corph yn gorwedd yno, wrth y goleuni gwanaidd hwnw, yn nystawrwydd pruddaidd marwolder, a'i wyneb gwelw, llonydd, a barai i'w galon ymchwyddo, a'i ewynau fyned yn ddi rym. Arddunedd yr olygfa a barai iddo deimlo baweidd-dra ei weithred yn ddau ddyblyg: bu agos iddo lewygu, a chan fwriadu rhoddi y gorchwyl i fynu, efe a ddychwelodd i gorff yr eglwys. Safai yno am enyd, tra ei hadnewyddid gan yr awyr oeraidd; ac yr oedd efe o'r diwedd ar ymadaw, pan wedi adgofio y dylasai ddodi clawr yr arch yn ei ol; efe a wnaeth un egni grymus, ac aeth i'r bedd-gell drachefn i'r perwyl hwnw. Ond, nid oedd yr olwg ar y corph mor arswydlawn iddo yn awr ag ydoedd o'r blaen. Yr oedd y braw wedi gwneyd ei eithaf arno; a deuai ei fwriad cyntefig yn ol i'w feddwl yn ddiarwybod iddo; a thrwy ymdrech brysiog efe a gyfododd y corph, a dynodd y gadwaen dros y pen, a ryddhaodd y tlŵs oddi tan y llaw, ac yna a ollyngodd y corph yn ol i'w le drachefn. Fel yr oedd efe yn gwneuthur hyn, cwympai y fraich a orweddai ar y fynwes o'r blaen, gyda hyblygrwydd dyeithriol dros ymyl yr arch, a deuai uchenaid wanaidd o'r corph. Ped ymdorasai taran-dwrf yn ddisymwth ar y dystawrwydd, ni buasai yn dychrynu mwy ar y dyn, na'r uchenaid fechan hono. Efe a ruthrai allan yn ddychrynedig, gan adael y beddrod heb eu gau i fynu, ac agorai ddrws yr eglwys i fyned allan, pan, er ychwanegu ei derfysg meddwl, y peth cyntaf a ddisgynai ar ei olygon oedd y lloer fawr yn ymddyrchafu yn nerth di ball ei goleuni dros ymyl yr arwel. Llewyrchai ar ei gyfer yn gymhwys, ac ymddangosai fel pe y buasai yn edrych arno, ac yn dyfod i'w ddadenhuddaw. Ni feiddiai ddyrchafu ei lygaid drachefn; ond, heb ymdroi hyd yn nod i gloi yr eglwys, efe a ffoai ar draws y caeau, yn cael ei erlyn gan ei ofnau.
Yr oedd hi y pryd hyn tuag un ar ddeg o'r gloch: nid oedd gweinidogion Plas Woodley wedi encilio i'w gorphwysfäau eto; yr oedd eu meddyliau yn gythryblus mewn canlyniad i'r angladd, a theimlent ryw radd o ymwared wrth eistedd yn nghyd i ymddiddan am yr amgylchiadau cyssylltiedig âg afiechyd, a marwolaeth ddisymwth eu harglwyddes. Tra yr oedd eu calonau mor lawn o alar, ni allent oddef dystawrwydd eu hystafelloedd, ac ofer fuasai iddynt geisio cysgu; am hyny, tu a'r amser a grybwyll-