ais, hwy a adawsant eu hystafell, a goleu gwanaidd y canwyllau, i fyned dan golofrodfa y tŷ, a mwynhau awyr falmaidd y nos, a'r lleuad gannaid. Parhaent i ymddiddan am yr un peth; ieuenctyd eu harglwyddes, ei lledneisrwydd, ei hafiechyd anamgyffredadwy, y dystiolaeth arddunawl a adawsai o'i chariad at ei phriod, hyd yn nod pan yn marw; ac yna, pa beth a ddeuai o'u meistr torcalonus, yr hwn a fuasai mewn neillduedd yn ei ystafell bron trwy y dydd, heb brin ganiattau i neb ddwyn ei ymborth angenrheidiol iddo-pan ddywedai un o honynt à llais isel, "Pa beth a all fod y peth gwyn acw sydd yn ymsymmud gerllaw y coed bedw yn y pen draw i'r Rhodfa Hir?" Edrychent oll yn y cyfeiriad hwnw, ond ni's gwelent ddim ar y cyntaf, gan ei fod yn cael ei guddio gan y coed deiliawg; ond yn fuan drachefn deuai i'r golwg, ac fe'i gwelid yn eglur.
Yr oedd y Rhodfa tua phedwaredd ran o filldir o hyd: deuai y gwrthddrych i waered ar hyd-ddi; ac yn fuan gwelai y gwasanaethyddion olygfa arswydlawn; rhywbeth ar ffurf ddynol, mewn gwisgoedd gwynion llaesion, yn honcian ac yn tramgwyddo ar draws y cemmaes agored, ar yr awr drymaidd hono, ac o dan oleuni llachar y lloer. Nid arhosasant i weled ychwaneg; ond prysurasant at ystafell eu meistr, i fynegi yr hyn a welsent iddo. Efe a'u hattebai o'i ystafell, â'i lais egwan, gan ddywedyd; "Ewch i orphwys druain, ewch i orphwys. Y mae eich meddyliau yn gythryblus: ac yn wir, y mae fy meddwl innau yn rhŷ isel gan drallod yn awr, i allu goddef clywed y fath bethau. Cauwch y, tŷ i fynu. Nos dawch."
Ond parhaent oll mor ddifrifol i sicrhau gwirionedd yr hyn a ddywedasent, fel y daeth Syr William o'i ystafell, gan ddywedyd yr elai efe gyda hwynt i'r parc, i edrych a oedd y ddrychiolaeth yn weledig eto, ynte nad oedd. Druan oedd ef! yr oedd efe yn dra annghymwys ar y pryd, i liniaru y braw a gymerasai afael ar ei wasanaethyddion. Yr oedd trallod, hir ympryd, ac amddifadrwydd o gwsg, gorchwyl pruddaidd y dydd, ac yna y chwedl ddyeithriol hon, bron wedi dyrysu ei synhwyrau; ac elai i waered ar hyd y grisiau yn grynedig, a chyffrous.
Cyn cyrhaedd o honynt y gwaelod, gwaeddai un o'r gwasanaethyddion yn gynhyrfus, "Edrychwch Syr, edrychwch!"
Edrychai Syr William i waered, ac wele, ar garreg-lawr oer y neuadd, gorweddai rhyw wrthddrych, wedi ymddyrysu mewn rhyw wisgoedd anolygus, yn gruddfan ac yn wylofain yn naturiol. Yr oedd y wynebpryd mewn rhan yn weledig; ac fe'i gwelai Syr William. Ymddangosai fod ei synhwyrau wedi ymddyrysu
yn ddisymwth; canys mewn modd cyffrous efe a ddisgynai ar ei liniau wrth ochr y gwrthddrych, ac arhosai yno am enyd, a'i ddwylaw yn mhleth, a'i wedd yn synedig. O'r diwedd, clywid llais crynedig benyw, yn dywedyd, "Yr ydwyf yn ofni fy mod wedi cam-ymddwyn; ond rhaid mai mewn breuddwyd yr oeddwn; na fyddwch yn ddig wrthyf."
"O Dduw! fy ngwraig!--Pa fodd y mae hyn? Na, na, na, ni's gall fod. Y mae hi yn ei bedd!-Ac eto y mae y wynebpryd hwn, a'r amdo yma, yn dyrysu fy synhwyrau gan syndod! -Eliza! Eliza!-Ni's gall hi siarad eto. Er hyny nid ydyw yn hollol oer. Pa beth a all y fath ymweliad dyeithriol a hwn ei argoeli? Eliza! Gadewch i mi glywed y lleferydd yna unwaith eto-Dystaw! Dystaw! Cyfodwch hi i fynu. A welwch chwi? hi ei hunan ydyw hi, hi ei hunan yn gymhwys; y mae ei gwefusau yn ymsymmud; a gwelwch, y mae ei hwyneb tlawd yn wlŷb gan ddagrau. Duw yn unig a wyr pa fodd y bu hyn: ond myfi a ddiolchaf byth iddo am y tro. Dyna, yn dyner, symmudwch hi yn dyner; dodwch hi yn fy mreichiau, ac eled un o honoch gyda goleu o fy mlaen." Ei wraig mewn gwirionedd a gofleidid ganddo. Efe a'i cludai i'w ystafell, a'i dodai yn y gwely, ac a archai ddarparu adferolion cynnes iddi, y rhai a roddai ef ei hunan iddi; a chafodd hithau gwsg esmwyth am ddwy awr yn y canlyniad. Pan y deffrodd dywedai:-"A ydych chwi yna, fy anwylyd? Gadewch i mi glywed eich lleferydd. Y mae rhywbeth dyeithr wedi dygwydd i mi yr wyf yn sicr. A fum i yn orphwyllus? Buasai yn dda genyf pe buasent wedi fy ngwylio yn well; canys y mae yn ddiamheuol genyf fy mod wedi bod yn crwydro allan yn yr awyr agored. Yr ydwyf yn arswydo wrth feddwl am hyny. Y mae y breuddwyd a gefais er pan y'ch gwelais chwi neithwyr, fy anwyl briod, yn gwasgu arnaf å rhyw ymsynied annyoddefol o sylweddolrwydd. Rhaid mai y gweledigaethau erchyll hyny, a'm tarfasant i allan o'r tŷ yn fy nghwsg. Yr ydwyf yn gyflawn o boen. Mae fy nhraed yn ddolurus, ac yn gwaedu. Estynwch eich llaw i mi, a dyddenwch fi â'ch lleferydd.
Yr oeddwn yn dychymygu fy mod ychydig enyd yn ol, yn aros yn gyndyn, er hyny yn anewyllysgar, mewn lle tywyll, anhylon, a phoenus; ac i mi gael fy nghyffroi yno gan ruthriad disymwth awel oeraidd. Ymddangosai i mi fy mod wedi cwympo lawer gwaith, ac wedi fy archolli fy hun yn fawr wrth ymdrechu tynu allan tu a'r goleuni. Rhaid mai breuddwyd oedd hyn; ond yr ydwyf yn sicr fy mod wedi bod yn crwydro allan yn fy nghwsg; canys myfi a dybiais y buaswn yn gwallgofi pan ym-