a ddaethant gyda HU GADARN i ynys Prydain; sef ni fynai efe wlad a thiroedd o ymladd ac ymlid, eithr o gyfiawnder ac yn nhangnef;—Ail oeddynt Al y Lloegrwys a ddaethant o Dir Gwasgwyn, ac a hanoeddynt o brif Genedl y Cymry; Trydydd oeddynt y Brython, ac o Dir Llydaw y doethant, a'u hanas o gyssefin Al y Cymry: a'r Tair Hedd Giwdawd eu gelwir, am ddyfod o honynt y naill wrth fodd y llall, yn heddwch a thangnef; a'r Tair Ciwdawd hyny a hanoeddynt o gyssefin Genedl y Cymry; a chyfiaith cyflafar y Tair Ciwdawd."—TRI. 5.
Mewn Triawd arall, efe a gyssylltir & Phrydain, a Rhitta, fel tri "gwrthrym ardwy," neu wŷr o ddylanwad grymus i waredu eu cenedl rhag gorthrymder a thrais; a gwnaed hyny gan HU GADARN drwy ddwyn ei ganlynwyr o Ddeffrobani, lle ag oedd mewn rhyfel a galanas parhaus, gan eu gwladychu o'r diwedd yn yr ynys hon, lle nid oedd neb arall i'w gorthrymu.
Oddiwrth yr amryfal grybwylliadau uchod am HU GADARN, a gawsant eu trosglwyddo o oes i oes yn nhraddodiadau y Genedl, ar gof a llafar; ac o'r diwedd a gorphorwyd yn y Trioedd, gallwn gasglu ei fod yn wr a enillasai ddylanwad mawr ar ei genedl yn dra boreu, trwy ei ddoethineb, ei gyfiawnder, a'i ledneisrwydd; a bod ei goffadwriaeth yn y canlyniad, mewn bri mawr yn eu mysg. Ymddengys hefyd ei fod yn cael ei or-anrhydeddu yn yr oesoedd tywyll, fel un o'r is dduwiau, yn enwedig gan y rhan hono o'r genedl a ymsefydlasai yn Gaul: canys yn y flwyddyn 1711, cafwyd carreg yn y wlad hono, ar yr hon y cerfiasid darlun o ddyn grymus, ar y weithred yn tori pren; a'r enw HEUS wedi ei gerfio dano: a meddylir fod y cerfiad wedi ei fwriadu yn arwydd-lun mai efe oedd y cyntaf a'u dysgodd i arloesi, a thrin y ddaiar. Y mae darlun o'r cerfiad uchod wedi ei ddodi yn y "Memoirs of the French Academy of Inscriptions;" ac yn "Roberts' Sketch of the Early History of the Cymry. " Yn y Tal-addurn i'r Gwaith hwn, fe'i darlunir yn ei gorwgl, yn croesi drosodd i'r ynys hon, a'i offerynau ammaethyddol, a cherddorol ganddo.
Cyfeiria amryw o'r hên Feirdd atto yn eu Cyfansoddiadau, megys Iolo Goch, yn ei Gywydd i'r Llafurwr, yr hwn yn amlwg a gyfeiria at y traddodiad, mai efe a ddysgodd i'r Cymry aru tir gyntaf;
"Hu Gadarn, feistr hoyw Giwdawd,
Brenin yn rhoi gwin er gwawd.
Daliodd ef gwedi duliw
Aradr gwaisg, arnodd-gadr gwiw."
Gutto'r Glyn hefyd, yr hwn a flodeuai yn fuan ar ol Iolo Goch, a ddywaid yn un o'i Gywyddau, cyflwynedig i Sieffrai Cyffin:—
"Troi o faesydd Tref Oswallt,
Tyru yd yn y tair allt;
I'r un gwr mae'r aur yn garn,
Ac ŷd mwy no HU GADARN.
Yd Sioseb nid oes eisiau,
Yd Sieffrai a ddyblai'r ddau."
Yn y llinellau yna eto, y mae yn amlwg fod y Bardd yn cyfeirio at y traddodiad am dano, fel un a ddygasai ammaethyddiaeth i gyflwr mwy llwyddiannus na chynt. Ar y bannau yna, gwnaed y Sylwadau canlynol gan Iolo Morganwg mewn hen ysgrif lyfr:-"O bob anhawsder a welir yn yr hen lyfrau, nid oes un mwy, na deall pwy, ym mha le'n byw, ac ym. mha oes oedd HU GADARN. Tebygid wrth a welir mewn rhai fanau, mai un o enwau Duw oedd HU GADARN. Wrth a geir mewn manau eraill, ymddengys mai Dyn ydoedd, a'r cyntaf a ddysgodd i Genedl y Cymry lafuriaw tir."
Mewn man arall yn ysgrifau annghyoeddedig Iolo Morganwg, cair y dernyn achyddawl cywrain a ganlyn, yn yr hwn yr olrheinir achau y patriarch Cymreig i Menw ab y Teirgwaedd, cynnrychiolydd barddonol y dyn cyntaf, Adda. "Llyma wehelyth HU GADARN.—Hu Gadarn, ap Erddylad, ap Mymyr Ddoeth, ap Cardydwy Ri, ap Arweddawr, ap Rhun, ap Llywel, ap Yscorddawr, ap Urn, ap Tawedawr, ap Gallgof, ap Arddyl-(ed), ap Arddylad Hen, ap Howel, ap Madawe, ap Armael, ap Maelan, ap Eidwng, ap Carawn, ap Urddonwy, ap Urddan, ap Arffawd, ap Ieuawr, ap Elwyddawr, ap Arthan, ap Sulgant, ap Rhionwy, ap Rhiallon, ap Ffer, ap Urdd Hen, ap Alan, ap Rhŷs, ap Asbann, ap Rhys Hen, ap Gallawg, ap Nudd, ap Einigan Gawr, ap Air, ap Sul, ap Menyw, ap y Teirgwaedd." Y mae yr Henafiaethydd. yn cyfeiro at Wehelyth Tregawntto, neu Wehelyth Bryn y Traeth, fel y mae mewn rhai Llyfrau.
Y mae un Beirniad dysgedig yn dadleu, mai o rai o'r Chwedlau Ffrengig, mewn cyssylltiad a Charlemagne, y deilliodd y drych-feddwl am HU GADARN; a'i fod yn y canlyniad wedi cael ei wneyd yn brif arwr rhai o Ramantau Cymreig y bymthegfed ganrif; ac er cefnogi ei haeriad, yn dyfynu y darnau canlynol, o chwedl a gyfansoddwyd gyntaf yn y Ffrancaeg, tu a'r drydedd ganrif ar ddeg; ac a gyfieithwyd o'r Ffrancaeg i'r Lladin, ac o'r Lladin, Madog ab Selyf, a'i troes i'r Gymraeg:—
"Pan yttoed Charlys yn sein Denys
Ymhoffi a oruc wrth y brenhines,—
A gofyn idi 'A weleist di neu
A glyweist bot yn yr holl byt
Yn brenhin a wedei idav y gledyf
Ae goron ynwell nac idav ef.