Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceinion Llenyddiaeth Cymreig Cyf I.djvu/105

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddylasent fod yn perthyn iddynt, fod y dyfodiad newydd yn chwaer yn nghyfraith i fodryb mam yn nghyfraith eu brawd, yr hwn a breswyliai yn Dueñas, a bod brawd mam yn nghyfraith modryb eu chwaer yn nghyfraith, wedi marw, yr hyn a barai i'r llances anffodus ddyfod i ymnoddi-lle yn unig y gallasai ddysgwyl cael achles yn mynwes ei cheraint agosaf! Ymddangosai yr ymholwyr wedi eu boddloni trwy y cyfryw attebion, er nad oedd hyny yn nemawr o glod i'w treiddgarwch; y mae rhai haneswyr yn wir yn ein sicrhau, er nad oedd y rhesymau hybwyll hyn yn eu llwyr foddloni, eu bod o leiaf wedi dal eu tafodau, yr hyn a ddengys o leiaf eu bod yn meddu gradd dda o synwyr, a gochelgarwch.

Yr oedd hyd yn nod tegwch rhagorol, ac urddas pruddaidd wynebpryd y feinir Gastil ianaidd deg, o honynt eu hunain yn ddigonol i gynnyrchu edmygedd, tra yr oedd ei syberwyd tra manol, a'i hymneillduaeth, yn ei dyogelu rhag pob cudd-oganiaeth.

Yr ydoedd yn brydnhawn, ac wedi bod yn gwlawio, a'r estrones yn hollol unig yn y ty; a chan ddymuno cael anadlu yr awyr adfywiol efallai, ac yn ofni i dristwch feddiannu ei chalon o fewn y drigfa gyfyng, ddi nod, a thlawd hono, hi a aeth allan a'i chogail ar ei gwregys, i ddwyn ei gorchwyl yn mlaen wrth ddrws y bwthyn, o'r lle yr oedd gwastadedd mawr yn weledig, yr hwn a fraseid gan ddyfroedd brochwyllt yr Ebro, ac a addurnid à bryniau coediog, a ymddyrchafent yn rhestrau mawreddawg nes o'r diwedd y ffurfient fynydd-resi glasar. Y wleidferch deg a wlychai edef lwyd-frych y llin a'i dagrau, yn hytrach nag â lleithder oddi ar ei gwefusau, gan droi ei phen yn awr ac eilwaith, gan grynu wrth y trwst lleiaf a glywid yn y gymmydogaeth, fel rhyw ewig ofnus, a ochelasai erlyniad caled yr heliwr fwy nag unwaith. Ond, pan y gwelodd hi nad oedd neb yn sylwi arni, a bod ei hofnau yn ddi sail, hi a adawodd i'w rhodell syrthio o'i dwylaw, a chan gymeryd y cogail o'i gwregys, hi a'i taflodd ymaith gyda math o ddirmyg tywysogaidd; ei golygon a dramwyent dros y gwastadedd ehang, oddiar yr hwn eu dyrchafai yn awr ac eilwaith tu a'r nefoedd.

Yna ei llygaid mawrion a ddysgleirient gan belydr o lawenydd prudd-glafaidd; ac ymledai ei llygaid, fel pe mynasai gynnwys y cyfanwel anferth yn nghyd a'r holl amryfal brydferthion swynawl a ddyroddes Anian mor ddiandlawd ar y fro gynnyrchiol hono. Yr oedd y cadach lliain bras, ond pur-wyn, a orchuddiai ei mynwes, yn crynu fel dail yr aethnen, ac felly yn arddangos cyffroad ei chalon, yr hyn a gynnyddai yn raddol mewn darddwyster, hyd na's gallai ymattal yn hwy, ond y torai allan mewn llais cwynfanus yn yr ymadroddion canlynol:-"Mor brydferth yw y maesydd i'r hwn a all edrych arnynt yn rhydd oddiwrth ofal, a mwynhau eu rhiniau mewn tangnefedd. O! pe gallai dim wneyd i mi annghofio gwaeau a gofidiau y rhan a aeth heibio o'm heinioes, y perarogl blydd yma a fwrir allan gan y blodau hyn, wrth agor eu cwpanau sychedig i dderbyn cawodydd tyner y nef, a wnelai hyny. Claer yw yr awyr yma a anadla fy mynwes; teg yw y goleuni hwn sydd yn goleuo fy nghalon; y neillduaeth yma lle nad oes genyf ddim i'w ofni. Yn unig! O Dduw, yn unig yn wastadol, ac ar drugaredd estroniaid; yn cael fy llesteirio yn fy holl dueddiadau, hyd yn nod y mwyaf syml a diniwed; yn ysgaredig gan fy ngwr, yn cael fy erlid yn ddi drugaredd gan fy nhad fy hun, a'm hamddifadu hyd yn nod o ofal cysurawl fy mrawd, yr unig greadur yr ydwyf yn ei hoffi; a'r hwn am hyny yn ddiammeu a faglwyd mor annheilwng, er cael ei gladdu mewn daiar-gell! Nid oes droedfedd o ddaiar yn yr holl fyd, lle y gallaf ymguddio rhag fy erlidwyr; ac er hyny," ebe hi, gan grynu yn ddisymwth fel y deuai y meddwl iddi," er hyny, efallai mai eiddof fi yw y cwbl a welaf!"

Gwir na allasai gael perchenogaeth o'r hyn oll a welai heb ryw flinfyd newydd ac ofnadwy; canys pan syrthiodd ei meddwl ar draws y synied hwnw, teimlai gynhyrfiad moesol cyffelyb i'r cyffrawd anianyddol a gynnyrchir trwy gyffyrddiad à chorph trydanol.-"Carlos!" ebe hi, a'i llygaid yn ymlenwi gan ddagrau, "Carlos, fy mrawd! a foddlonir ein gelynion a'th ymfuriad di mewn carchar, a'm herlyniad innau er fy amddifadu o ryddid? Pa beth a rag argoela fy nghalon trwy y prudd-der yma sydd yn ei nychu? Carlos, a ddichon dy fod di yn gwrandaw cwynion dy chwaer, tra yr ydwyt ti yn gwenu ar waeau einioes o'r lle a arfaethodd Duw i fod yn orphwysfa dragywyddol i'r cyfiawn? A adewaist di dy anffodion yn ettifeddiaeth i mi, yn nghyd a'th holl iawnderau?"

Buasai y wleidferch deg yn dywedyd ychwaneg, yn rhoddi eglurhâd pellach ar ei geiriau cyntaf, oni buasai iddi gyfodi yn ddisymwth, gan dybied ei bod yn clywed rhyw drwst anarferol. "Y Duw mawr," ebe hi gyda phryder, "clywaf drwst cerddediad o fewn y tŷ; efallai mai yr hen wraig druan sydd yn gwylio drosof â'r fath serchawgrwydd ydyw. Ni wyr fy ngelynion fy mod yn guddiedig yn y fan hon; yr ofn, y braw yr ydwyf wedi byw ynddo cyhyd o flyneddoedd sydd yn cyffroi fy nychymyg, ac yn cyfareddu y cyfryw drwst." Ar y pryd, yr oedd llaw anweledig y Creawdwr yn darliwio enfys yn y dwyrain, a llyncwyd