Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceinion Llenyddiaeth Cymreig Cyf I.djvu/107

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Ie, chwaer ac ettifeddes yr anffodus a'r gwrthryfelgar Carlos, tywysog Viana, yr hwn a gydnabyddwyd gan y blaid Beamontanaidd, ac a gyhoeddwyd ganddynt fel ein brenin cyfreithlawn, a'n penadur naturiol."

"Yr ydwyf yn dywedyd eto na's gall hyny fod. Rhaid fod y dywysoges Doña Blanca, mewn rhyw bentref yn Castile yn awr; ond pa un bynag ai hi ydyw ai peidio, ni fyddwn ni ddim ar ein colled trwy ei dwyn hi ymaith, a'i throsglwyddo dros ychydig ddyddiau i'ch castell yn Peralta, lle y caiff letty mwy teilwng o'i haniad uchel, neu ei thegwch."

"Os nid hon yw y Doña Blanca o'r hon yr ydwyf i gymeryd meddiant yn enw y brenin, ei thad, byddai yn bur ddrwg genyf fy ngwneyd fy hun yn agored i'r perygl o orfod ymladd à holl warchodlu Mendavia, sydd yn awr wedi ei gryfhau drwy ddyfodiad Iarll de Lerin; a hyny yn herwydd benyw werinol."

"Nyni a fynwn gael pen ar ein hamheuon yn fuan," medd Sancho, gan symud ryw dri cham yn y bwthyn; ac wedi cydio yn ngwddf yr hen wraig âg un law, efe a ddywedai yn ffyrnig, "Yn awr yr hen wrach felldigedig, dywaid y gwir i ni, neu myfi a'th dagaf a'm dau fŷs, pwy ydyw yr eneth hon a gedwir genyt yn dy dŷ?"

"Syr, cares i mi ydyw," medd Aldonza, gan grynu.

"Celwydd a ddywedi, mam y d——l," medd Sancho, gan wasgu yn dynach ar ei gwddf, a'i fawd a'i fysedd, y rhai a deimlid fel gefail haiarnaidd. "A phaid ag ysgrechain," medd efe; "canys os gwasgaf ychydig yn ychwaneg, ni ddaw un sill mwy dros dy wefusau."

"Er mwyn Duw, gollyngwch fi Syr. Mewn gwirionedd nid yw hi yn perthyn dim i mi; ond, credwch fi, Syr, ni's gwn pwy ydyw hi. Boneddwr tebyg i chwi, yn gwisgo miswrn, a'i dug hi yma; ac efe a roddes god fawr i fy ngŵr; bu Fortunio yn ymddiddan âg ef; ond efe a aeth ymaith heb ei amlygu ei hun."

"Pa fath un oedd efe?" medd Mosen Pierres.

"Ni's gwelais ei wyneb ef, mwy nag yr ydwyf yn gweled eich wyneb chwi."

"Ai un bychan oedd efe, heb fod yn gryf iawn, a llais sych-gras ganddo?"

"Ie, Syr, ïe."

"Iarll de Lerin," medd Peralta. "Er hyny, yr ydwyf yn ofni eto fy mod wedi camgymeryd.

Y mae perygl mawr i ni i dynu yr holl warchlu yn ein penau."

"A pha ham, os ydym yn arfog?"

"Onid ydycn chwi yn ystyried ein bod ni wedi ein hyrddio ein hunain i dref wrthryfelgar, yr hon sydd, enaid a chorff yn perthyn i'r hen Iarll de Lerin, pennaeth pleidwyr tywysog a thywysoges Viana, mewn gwrthwynebiad i'n harglwydd frenin? Onid ydych yn canfod gyd a'ch cyndynrwydd uffernol, fod y dref nesaf a berthyna i'n plaid ni yn naw milldir o bellder o ffordd wastadach na'r weirglodd yma; ac y gallai meirchfilwyr yr iarll ein goddiweddyd?"

"A ydych chwi yn gwybod pa beth yw ystyr hyn oll mewn iaith gyffredin?"

"Y meddwl yw," medd Mosen Pierres de Peralta, "na's gwelais i mo Doña Blanca er y dydd y prïodwyd hi yn Valladolid â'r tywysog Harri o Castile; ac y mae arnaf ofn fod ei phrydweddiad wedi ei annghofio genyf bellach."

"Ffordd iawn i un i ymesgusodi," medd y pengryf Sancho; "ofn ydyw y cwbl, a dim arall."

"Yr ydwyf yn addunedu i'n nawdd-sant bendigedig Sant Fermin," medd Mosen Pierres, yn lled ddigofus, "pan lwyddaf i gael y gorchwyl blin yma oddiar fy nwylaw, y cosbaf chwi am eich sarhad."

"Yna, ni's byddwn yn hir heb ei gael oddiar ein dwylaw. A ydych chwi mewn amheuaeth pa un a ydyw y werin-ferch brydferth yna sydd yn siarad â'r gwr ieuane yna, ac yn ymddangos fel pe y byddai yn ddysgybles o Fynachlog Leyre, y dywysoges? Myfi a fynaf gael hyny allan yn fuan."

"Pa fodd?"

"Chwi a gewch weled. Tyred yr hen widdanes," medd y milwr taiog, "pa beth yw enw yr eneth yna?"

"Ximena, Syr."

"Wel, myfi a ollyngaf eich gwddf yn rhydd am fynyd, fel y galloch alw arni â llef uchel."

"Ximena," llefai yr hen wraig â llais cryglyd, acâgoslef grynedig, gan ymdrechu i drosglwyddo yn yr un gair hwnw, gerydd a rhybudd iddi.

Y fenyw a gyfodai ychydig ar ei hysgwyddau; ac yna troai ei hwyneb tu a'r bwthyn, yn gwenu eto mewn sirioldeb, a chanai yn iach i'r llencyn llawen.

"Doña Blanca, Doña Blanca," bloeddiai y milwr sarug yn y fan, mewn llais a daranai trwy y bwthyn bychan.

Ond, cyn bod yr enw dros ei wefusau yr ail waith, yr oedd y dywysoges ymaith fel saeth oddiar fwa, gan roddi ysgrech dreiddiol, a rhedai yn wyllt tua meudwyfa Legarda, yr hon a ddyrchafai ei phinaclau yn nghanol y gwastadedd; ac yn agos i'r hon yr oedd nifer o deirw yn pori.

Ximeno a'i dylynai yn egnïol, gan ymdrechu yn ofer i arafu ei chamrau a'i lais.

"Druan o honof!" medd y Cwnstabl, "onid ydych chwi yn gweled fod eich ystyfnigrwydd melldigawl wedi gwylltio yr aderyn?"

"Naddo ar un cyfrif," medd Sancho yn ddi gyffro, "pan fyddo y golomen yn dianc o'r