rhwydi, nyni a fyddwn yn cymeryd y bwa. croes, ac â blaen y saeth fe'i goddiweddir ar ganol ei ehediad."
"Pa beth ydych ar fedr ei wneyd, greadur annedwydd?"
"Gollwng arni. Wedi y cwbl, pa beth sydd ar y brenin eisiau ganddi, onid er mwyn rhoddi dogn iddi a ddyru derfyn arni, fel y gwnaeth efe a'i brawd, tywysog Viana?"
"Merch eich brenin yw hi; arhoswch, mae yn rhaid i ni gael gafael arni, heb wneyd y niwed lleiaf iddi. Nid ydych chwi yn deall—y mae hyny yn ammod angenrheidiol er gwneyd i fynu ryw gyngrhair priodasol neillduol. Ond, oni welwch chwi? y mae yn rhy ddiweddar yn awr. Dacw darw yn gadael y fuel, yn rhedeg ar ei hol, ac yn ei goddiweddyd-daew y dywysoges wedi syrthio ar ei gliniau—mae y tarw yn ymosod arni—och! och! nid oes un ymwared yn awr."
Deuai ysgrech frawychus allan o'r bwthyn, yr hon a ymdorai dros wefusau dau o'r rhai oeddynt ynddo yn unig.
Yr anifail balch, gan fugunad mewn cynddaredd, wedi ei gyffroi efallai gan liwiau dysglaer arffedog y dywysoges, oedd yn gogwyddo ei ben yn awr i'w thrywanu â'i gyrn blaenllymion, pan neidiai y llencyn cryf a redai ar ei hol, rhyngddi a'r tarw yn ddisymwth, ac ymladdai âg ef a'i holl egni; ond ni allasai y fath ymdrech barhau nemawr, eithr â chyflymder y fellten, deuai saeth gan chwiban trwy yr awyr, wedi ei hannelu yn fedrus i galon yr anifail, yr hwn gan oblygu ei liniau dan freichiau ercwlffaidd Ximeno, a gwympai, gan ymdrybaeddu yn ei waed.
Y saeth hono, fel y gall fod ein darllenwyr yn tybied, a ddaethai oddiar albrys Sancho, yr hwn wrth glywed Moses Pierres de Peralta yn bloeddio nad oedd dim ymwared i Doña Blanca, er profi i'r gwrthwyneb iddo, a ollyngasai y saeth hono, yn llawn mor ddigyffro ag y buasai pe yn annelu at galon y dywysoges.
Cwympai y dywysoges mewn llesmair gan ddychryn, ac ni chafodd y ddau filwr un anhawsdra i'w chludo i'r bwthyn, lle ei rhoed o flaen un o honynt, ar y gorau o'u meirch; a marchogent ymaith yn gyflym gyda glan yr Ebro.
CYWYDDAU YMRYSON, RHWNG DAFYDD AB GWILYM A GRUFFYDD GRUG.
Yr oedd i Dafydd ab Gwilym ddau gyfaill hoff o Feirdd cyfoesol, sef Madog Benfras, o Faelor; mab Gruffydd ab Iorwerth, ab Einion Goch, o Swnlli, yn mhlwyf Marchwiail, ab leuaf, ab Llywarch, ab Nyniaw, ab Cynwrig, ab Rhiwallon, ab Dingad, ab Tudur Trefor, iarll Henffordd. Yr oedd y bardd hwn debygid, yn wr o anianawd dra chydnaws a Dafydd ab Gwilym, i'r hwn y canai Dafydd ab Edmwnt fel y canlyn, yn y flwyddyn 1460.
"Ar ol rhoi o'r ail rhiain
I Fadoc het fedwen cain,
Gwen a roes o gae, ni rydd
Hyd efell o gae Dafydd."
Y llall ydoedd Gruffydd Gryg, boneddwr dysgedig, a bardd awengar o Fôn; yr hwn oedd yn ei flodau o'r flwyddyn 1330, i'r flwyddyn 1370. Ymddengys ei fod ef a Dafydd ab Gwilym wedi bod yn wrth-ymgeiswyr am law yr un ferch ieuanc yn Mon; ac i hyny beri cryn gâs rhwng y naill a'r llall, yr hyn a gynnyrchodd y "Cywyddau Ymryson" canlynol rhyngddynt. Wedi i'r ymrysonfa barhau yn hir rhwng y ddau fardd, oni thynid sylw cyffredinol y wlad ati, a phob un yn anewyllysgar i adael i'r llall gael y gair olaf, anfonai myneich Priordy Gwynlliw, ger y Cas Newydd, swydd Fynwy, gennad o'r enw Bola Bauol, i Wynedd, gyda Llythyr at Gruffydd Gryg, yn ei hysbysu fod Dafydd ab Gwilym wedi marw, ac ei cleddid ar ryw ddiwrnod pennodedig, yn Mynachlog Ystrad Fflur; ac ar hyny cyfansoddodd Gruffydd Gryg, Alareb ddwys ar ei ol; a phrysurodd i'r Deheudir, er bod yn wyddfodol yn nghladdedigaeth ei gyfaill yn Ystrad Fflur. Yn y cyfamser, anfonid Llythyr arall at Dafydd, yn hysbysu fod Gruffydd Gryg wedi marw, ac ei cleddid yn ol ei ddymuniad neillduol ei hun yn Ystrad Fflur; a gofalid am nodi yr un diwrnod am gladdedigaeth y ddau; yna prysurodd Dafydd i fyned i angladd Gruffydd, a chyfansoddodd alareb dra serchog i'w goffadwriaeth; a mawr oedd eu syndod a'u llawenydd, gyfarfod y naill y llall yn fyw; ac o hyny allan, ffynai y cyfeillgarwch puraf rhyngddynt.