GRUFFYDD GRUG YN GOGANU DAFYDD AB GWILYM
OHERWYDD EI DRASERCH AM FORFUDD.
Truan mor glaf yw Dafydd!
Trwyddew o serch trwyddo sydd!
Eres yw Ddafydd, oeryn,
Fab Gwilym gam, ddinam ddyn.
Gwas trahy, cywely cawdd,
Gwewyr ganwaith a'i gwywawdd!
Hefyd, y mab anhyfaeth
Yn llochi cerdd, llechu caeth!
Maith eiddilwaith ei ddolef,
Mam i Dduw! i mae, medd ef,
Artaith ddirym ar Gymro,
Eres yw ei fyw y fo!
Gwewyr, rhif y syr y sydd
Yn difa holl gorph Dafydd:
Nid gwaew terfysg ym mysg mil,
Nid gwayw Iddw, ond gwayw eiddil;
Nid gwayw y'nghefn, wiwdrefn wedd,
Nid sylwayw, ond salwedd!
Er dengmlynedd i heddiw
Dafydd a ddywawd, wawd wiw,
Fod yntho, gant ond antur,
O frathau dyrnodiau dur!
Celwydd, mwyn brydydd mewn brad,
A draethodd Dafydd, druthiad!
Pei bai Arthur, ddur ddewrgorf
A wnai ffysg derfysg ar dorf,
Gwir yw, pe bae'r gwewyr oll,
Cynnyrchiol mewn can archoll,
Gwyllt rhyfel a gynhelis,
Gwir yw, na byddai byw fis!
Ym mhob rhyw fan, gran grynwyf,
Mair a glyw, mae mawr ei glwyf!
Chwaethach meinwas yw'r gwas gwiw,
Gweinidog cerdd gwan ydiw;
Och ym! pe's brathai Gymro,
A gwaew o Fon ond gwae fo!
Ai eurllaw ar ei arllost,
Dan ben i fron don yn dost!
O byddai farw y bore',
Yn fyw, truan yw, tua'r ne',
Chwaethach crybwyll mewn pwyll per,
Llefain rhag gwewyr llifer.
Enbyd iddaw, rhag praw prudd
Angau am arfau Morfudd!
Eil i liain yw ei lias,
Ei liw ag arfau a las!
Y'nghred y mab arab ddoeth,
Cyd foed yn wr campus coeth,
Y gwnai wr call arallwlad
Cwyn a saeth irwyn a sad.
DAFYDD YN ATTEB,
GAN HAERU MAI BENTHYCA CERDD YR OEDD GRUFFYDD GRYG.
Gruffydd Gryg wyg wag awen,
Grynedig boenedig ben,
Cyn-ofydd cerdd bun un-flwydd;
Coeg yw un dyfiad cyw gŵydd.
Nid llai urddas, heb ras rydd,
Na gwawd, geuwawd o gywydd;
Cywair ddelw cywir ddolef,
Cywydd gwiw ofydd, gwae ef!
Un a'i cais arall a'i cant,
Enw gwrthgas, un a'i gwrthgant,
Un a'i teifl yn oed diflas,
Hen faw ci, hwn a fo cas.
Telyn, ni roddwyd dwylaw
Ar ei llorf, glain irgorf gwlaw:
Ni warafun Bun o bydd
Ei cheuedd, gyda'i chywydd,
Yn nhafarn cwrw anhysul,
Tincer a'i cant wrth fol taner cul.
Cwrach memrwn, westgrwn waith,
I'r dom a fwriwyd ymaith;
Diddestl, wrth ei fedyddiaw,
Ei bennill ef, bin a llaw.
Ba'r achos y barnasam
Bei cerdd, lle ni bo cam?
Cam amcan yw'r awenydd,
Draw i'm diswyddaw y sydd.
Gruffydd, ddigudd ymddygiad,
Ab Cynfrig, Wyndodig dad:
Gwr heb hygarwch gwawdydd,
Gwyro o'i ben gerdd y bydd.
Crair pob ffair, a ffurf gweheirdd,
Cryglyfr bost, craig lefain beirdd.
Nid oes lle mae maith y medd
I geiniaid gerddau Gwynedd,
Eithr tori athrod hiraen
Braisg gofl yw y brisg o'i flaen!
Ni chân bardd wiw hardd, ei hun,
Gywydd i ddyn deg addwyn;
Ac ni chân Gruffydd, brudd braw
Gwedd erthwch, gywydd wrthaw.
Pawb a wnai adail pybyr,
O chaid gwŷdd, ag iechyd gwŷr;
Haws yw cael, lle bai gwael gwŷdd,
Siwrnai dwfn, saer na defnydd.
O myn wawd, urddwawd eurddof,
Aed i'r coed, benadur cof.
Nid tra chyfrwys, lwys lysenw,
Ei gywydd clod, hynod henw;
A fai raid o fwriadau,
A defnydd ei gywydd gau;
A'i llaw ar ganllaw'r geinllwyr,
Rhydain hên a red yn hwyr.