Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceinion Llenyddiaeth Cymreig Cyf I.djvu/110

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Caned fardd i ail harddlun,
Gywydd o'i henwydd ei hun:
Rhoddaf, anwylaf yn ol,
Rybydd i Ryffydd ryffol;
Taled y mab attaliaith
Tâl am wawd, talm ym o'i waith.


YMDDIFFYNIAD GRUFFYDD GRYG,
YN DANGOS Y MEDRAI GANU.

Gwyllt yw, ni wn ai gwell ym
Gweled Dafydd ab Gwilym,
A'i law dwyllfraw, elw dullfreg,
Dau wynebydd Dafydd deg!
Da i'm gwydd ysgwydd esgud,
A drwg im habsen, a drud.

Dywaid i wyr y Deau,
Dafydd, ar ei gywydd gau,
Nad oedd ym ddim ond gwawdlef,
Eithr ei ddysg, athro oedd ef.
Dywaid gelwydd, myn Dewi!
A phrofer pan fyner fi!
Tyngodd na wnaf a'm tafawd,
Gorau gwr, ond gwyro gwawd;
Arwydd na fynwn eiriawl,
Wyro ermoed, air o'r mawl!
Syml hwylys, os aml holion,
Os hoff gan Ddafydd ei fon,
Hoff gan bob edn aflednais,
Ym medw gled, lwysed ei lais!

Dryglam oer, drwg glwm eiriau,
I'r dyn o honom ein dau;
A difa ei ben, a'i dafawd,
Lle b'ai a newidiai wawd!
Er bod cryg, ynnig enni,
Yn nhwf dig fy nhafod i,
Nid yw un gamp nid angerdd,
Nid cryg, myn mair, gair o'r gerdd.

Hobi-hors ym mhob gorsedd,
Y fae hoff ni feiai wedd.
Degle'n nes, dwy glun essyth,
Diflas wyt, dan daflu syth:
Dilys na bu hudoliaeth,
O ben malwen wythen waeth!
Ail yw'r organ ym Mangor,
Rhai a'i cân er rhuo'n y côr.
Y flwyddyn, erlyn oerlef,
Daith oer drud y daeth i'r dref,
Pawb o'i goffr a roi offrwm,
O'r plwyf, er a ganai'r plwm,
Trydar i daerfar ar darf,
Brydydd yw Dafydd dewfarf:
Hoff oedd y 'Ngwynedd, meddynt
Yn newydd, ei gywydd gynt.
Bellach gwywach ei gywydd,
Aeth y ngwyllt ei waith y'ngwŷdd.
Paham am gam Gymraeg,
Na wŷl mab Ardudfyl deg,
Pwy yw ef ddig-lef ddeu glwyf,
A phwy wyf innau? hoff wyf!
O bai deccaf gan Ddafydd,
Heb gel, gaffael rhyfel rhydd,
Bwgwl gwlad sydd rhuad rhai,
Bawddyn oedd na'm rhybuddiai,
Rhag fy nghael y nghwlm coddiant,
Yn lledrad, fal y cad cant;
Ceisiodd fi, casäodd sudd,
Rheibiwr y gerdd, heb rybudd;
Ni roi neb, ac ni rown ni
Seren bren ar ei sori!


DAFYDD YN ATTEB DRWY YMFFROST AC YN HERIO GRUFFYD GRYG.

Grifft y plwyf ei grefft a'i plyg,
Graff ei ddeigr Gruffydd Ogryg;
Dihareb wr du, erof
Da y cân, dieuawg cof.
Ymannerch teg, o mynai,
A gair caredig a gai;
Ac oni fyn, gefyn gau,
A fynwyf a wnaf innau!
Nid gwiw er ymliw ar lais,
Wadu'r hyn a ddywedais;
Na bai raid tyngnaid tangnef,
Ys aml wawd, gwr syml yw ef.

Llyma'r tyst, lle mae'r testun,
Gwardd hir, yn ei gerdd ei hun;
Cynt i'n gŵydd y cant yn gerth,
Cefn i Dudur ab Cyfnerth.
Ym, er march gwŷdd, hydd hoywddaint,
Ag i'r organ seinian saint;
Caniad talm, cyn oed dolef,
Cenau taer, nag y cânt ef.

Pam i rai ddifai ddefawd,
Pefr nerth dros dalu gwerth gwawd,
Was dewr hy ei west yrhawg
Ar Dudur, wr odidawg?
Myned fab i gydnabod,
Mulder glew, mold ar y glod;
Ac na syned, ced nid cel,
Ar ddychan arwydd ochel.

Ynfyd yw i wiw syw was,
Anfon anrhegion rhygas:
O Fon, holion a helir
I mi, hyd Bryderi dir.
Henw y ngwlad yw Bro Gadell,
Honaid ei gwyr hyn neud gwell!
Ystod a'i dafod a dyf,
Ysto garth, os dig wrthyf,
Deuwn i gyd, da fyd fu,
Law-law rhwng ein dau loywlu,