Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceinion Llenyddiaeth Cymreig Cyf I.djvu/114

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pwy gân i ddŷn lân o liw,
Gywydd dan hoyw-wydd heddiw?
Nag anglod mwy nag englyn
I Eiddig chwerw-ddig ddyn!
Rhoed serchawgrwydd a'n gwyddor
Mewn cist yn ngwaelod y côr:
Cist o dderw, cystudd irad!
A gudd gwalch y gerdd falch fad!
O gerdd sain gywir ddi sal,
Ni chaid un gistaid gystal!
O gerdd euraid gerddwriaeth
Doe'r oem i gyd yn drwm gaeth!
Llywiwr iawn-gamp llariangerdd,
Llyna gist yn llawn o gerdd!
Och hael-grair Fair, uchel-Grist!
Na bai agorai ei gist!
O charai ddyn, wych eirian,
Gan dant, glywed moliant glân;
Gweddw y barnaf gerdd dafawd,
Ac weithian gwan ydyw'n gwawd!
E aeth y brydyddiaeth deg
Mal ar wystl, mul yw'r osteg!
Gwawd graffaf gwedi Gruffydd
Waeth-waeth heb Ofyddiaeth fydd!
Edn glwys ei baradwys-lef,
Aderyn yw o dir nef!
O'r nef y daeth goeth gethlydd
I brydu gwawd i bryd gwydd,
Awen-fardd awen win-faeth,
I'r nef, gwiw oedd ef, ydd aeth!


MARWNAD DAFYDD AB GWILYM,
GAN GRUFFYDD GRYG.

DAFYDD AB GWILYM ymy
Y bu fraw am na b'ai fry
Yn nhir Deheu-barth yn hardd;
Ag eurfa rhof i'm gwirfardd.
Gwae'r beirdd am y pencerdd-walch,
A gwae'r byd am y gwr balch!
Gwae finnau, myn creiriau cred!
Troes boen dwfn tros baun Dyfed!
Dewiswn dduchan glanbryd
O ben Dafydd, brydydd bryd,
Cyn prydu ym gloyw-rym glod,
O arall, anghall yngod.
Dysgybl wyf, ef a'm dysgawdd,
Dysgawdr Cywydd heawdr hawdd:
Cyn ei farw bu gyfarwas,
Rh'of ag ef, rhyw ing o gas:
Pwy bynag ddewin ddinam,
O ferw cerdd fu ar y cam,
Maddau i'r prif-fardd hardd-faeth
Hoyw Dduw nef, heddyw a wnaeth:
Rhof finnau gweuadau gwawd
Maddeuant am a ddywawd.—
Ar y gwir y bu hir-hynt,
A minnau ar y gau gynt;
Bum, myn Cynddél! ar gelwydd
Gwawr serch ar y gwir sydd.
Brenin haul a goleu-loer,
Bu nâd, ac irad, ac oer,
Dwyn Dafydd, dioer, dyn difai,
Dwbiwr cerdd dan Aber Cai;
Fab Gwilym, wawdrym wiw-drefn,
Fardd pencerdd-radd lifnadd lefn;
Un tlysair enw Taliesin,
Ynad gwiw, enaid y gwin;
Cyw Merddin cu-wiw mawr-ddof,
Cadair y gerdd cadr ei gôf.
Ymlyn-gof aml ei angerdd,
Angel ystor cyngor cerdd;
Cywir-dant mwyn a gwynir,
Colofn cerddau Deau dir!
Caed o'i ben bob cymhendawd,
Cynddelwaidd ei weddaidd wawd;
Hoyw-lan wr, hael Aneurin,
Hael o was a heiliai win:
Dôr dur-arf, dewr, a diriaid,
Yn llwybro 'r aur lle bu raid.
Maes o wawd gwr masw ydoedd,
A doeth pan ofynid oedd;
Mal Trahaiarn y barnwn,
Neu fel Llywarch, hir-barch hwn;
Neu Gasnodyn, dyn di fas,
Neu fal Addaf, frwysgaf Fras.
Cywraint y gwnaeth Mabmaeth Mair,
Dan gôr gwydr, dwyn gwr gwawdair;
A gadaw Bleddyn gidwm,
Ffordd druan y cryman crwm:
Iawn y gwnaeth Crist ddewis-tad,
Ac yn cael gafael y gad,
Yn ddilys ddewis o'r ddau
Ddinag ŵr, ddwyn y gorau!
Dewisodd Duw deulu-was,
A gwrthod cydfod y cas.-
Tristach weithian bob cantref;
Bellach naw llawenach nef!


I'R YWEN UWCH BEN BEDD D. AB GWILYM.

Pan glybu Gruffydd Gryg farw o'i anwyl Gyfaill, D. ab Gwilym, cymerodd daith o Fôn i Ystrad Fflur, i'w gladdedigaeth, er cyflawni y pwyth olaf o'r caredigrwydd rhyngddynt; a chanodd y Cywydd canlynol i'r Ywen oedd uwch ben ei fedd. Fe ddywaid rhai mai yn Môn y bu farw D. ab Gwilym; ac i Gruffydd Gryg hebrwng ei gorph i'w gladdu yn Ystrad Fflur.

Yr Ywen i oreu-was
Ger mur Ystrad Fflur, a'i phlas,
Da Duw wrthyd, gwynfyd gwŷdd
Dy dyfu yn dŷ Dafydd!-
Dafydd, gwedi dy dyfu,
A'th wnaeth o'i faboliaeth fu.

Dafydd Llwyd a'th brophwydawdd
Er cyn dy dyfu rhag cawdd,