Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceinion Llenyddiaeth Cymreig Cyf I.djvu/117

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd y dyn tlawd yn gariadus yn ei bentref; a'r cymmydogion, wrth weled boneddiges ieuanc yn ymholi i'w amgylchiadau anffodus, fel un yn teimlo dyddordeb yn yr achos, oeddynt yn awyddus i roddi iddi bob hysbysrwydd o barth i'w gyfyngder. "A meddyliwch, Miss," medd un o honynt, "dim ond o eisiau naw punt yn unig, rhaid i fachgen mor onest a gweithgar ag a fu erioed; a chystal gŵr a thad ag a fu mewn teulu, adael ei deulu, a myn'd yn un o'r milisia; a hwythau, druain, ydynt i fyned i'r tlotty!"

"Naw punt!" medd Julia; "a fyddai hyny yn ddigon i'w gadw ef gartref ?"

"Byddai Miss; canys fe fyddai y llane ieuane acw yn falch i fyned yn ei le ef am ddeunaw punt."

Pa gynifer o feddyliau a redent yn gyflym drwy enaid Julia, wrth glywed hyn! Pe y talai hi y naw punt, adferid y dyn i'w deulu, ac efallai y cedwid hwythau rhag marwolaeth anamserol yn y tlotty! Ond wedi hyny, nid oedd ganddi hi ddim arian ond a anfonasai ei thad iddi i brynu yr ysgin; ac ni's gallai hi ei wynebu ef ar y rhedeg-faes!-ac efe a fyddai mor siomedig oni byddai hi wedi ymwisgo yn dda! Gwir, hi a allai gymeryd yr ysgîn ar goel; ond drachefn, yr oedd hi yn sicr y byddai ei thad yn ddig iawn wrthi hi am fod mor wastraffus, pe y byddai iddi wario deuddeg guni, a thaflu naw punt ymaith ar yr un pryd: gan hyny hi a wyddai fod yn rhaid iddi, naill ai rhoddi i fynu wneuthur gweithred haelfrydig, neu roddi i fynu yr ysgin; hyny yw, rhoddi i fynu foddhau balchder ei thad, a'i gwag-ogoneddiad ei hunan.

"Na, ni feiddiaf ei wneyd," medd Julia ynddi ei hun: "gwnawn yn ewyllysgar farwhau fy ngwagedd fy hunan; ond ni's gallaf ddigio fy nhâd, ac archolli ei deimladau. Na-rhaid i'r dyn truan fyned." Yn ystod yr ymrysonfa meddwl yma, gwyliai y rhai oeddynt gerllaw ar ei gwedd yn ddyfal; a chan feddwl ei bod yn tueddu i dalu y swm oedd yn ofynol, hwy a wnaethant eu gobeithion yn hysbys i'r teulu truain eu hunain; ac fel y troai Julia ei llygaid tuag attynt, y ddau a edrychent arni â gwedd mor erfyniol! Ond, yr oedd hi wedi penderfynu; "Y mae yn ddrwg genyf, mae yn ddrwg iawn genyf," ebe hi, "na's gallaf wneyd dim eroch. Pa fodd bynag, cymerwch hyn." A chan ddywedyd hyny, rhoddodd yr ychydig arian rhyddion oeddynt yn ei llogell, yr hyn oeddynt yn ychydig sylltau, ac yna, a'i chalon yn ofidus, cerddai ymaith yn gyflym; ond fel yr oedd hi yn myned, wylofain y wraig druan, fel y pwysai ar ysgwydd y gŵr; a chri y bachgen bach, fel yr oedd ei dâd gan ymdrechu â'i ofyd, yn rhoddi y ffarwel olaf iddo, a'i cyrhaeddodd, ac a dreiddiodd i'w chalon. "Druain ydynt!" medd hi ynddi ei hun; "a gallai naw punt droi y dagrau yma yn llawenydd, ac eto fy mod i yn eu gomedd! Ac ai er hyn y bendithiodd y nefoedd fi a golud ?-bod i mi gael fy lluddias i wneuthur yr hyn a gymeradwyai fy Nghrewr, rhag cael fy ngheryddu am wario rhyw swm bychan! Na!-myfi a dalaf yr arian. Myfi a fwynhaf yr hyfrydwch o wasanaethu y teulu teilwng yma yn eu trallod, ac o arbed i mi fy hunan ofidiau cydwybod tragywyddol, efallai !"

Yna, heb ymdroi i betruso mwyach, hi a drodd yn ol, a dalodd yr arian i law y dyn tlawd, ac a roddes y pedair punt "gweddill i'r wraig, yr hon, er ei bod yn lanwaith, oedd yn llom iawn ei gwisg,-gan ddymuno arni ddefnyddio rhyw gymaint o honynt i geisio dillad iddi ei hun, a'r plant.

Ni cheisiaf ddysgrifio syndod a diolchgarwch y teulu a waredwyd trwy y weithred haelfrydig hon o'i heiddo, na'r teimladau gorlethawl a feddiannent Julia; yr hon gan encilio â chyflymder y fellten o gyrhaedd eu diolchiadau, ac yn dymuno bod yn anadnabyddus iddynt, a brysurodd ar ei ffordd adref, heb feiddio ymdroi, rhag y buasai i'w llawenydd am y caredigrwydd a wnaethai, gael ei lesteirio gan ystyriaethau eraill. Ond o'r diwedd yn ddiffygiol, ac ar golli ei hanadl, bu raid iddi arafu ei chamrau; ac yna, ymrithiai gwedd ddigofus a siomedig ei thad iddi, yn ei holl arswydolrwydd.

"Pa beth a wnaf?" ebe hi. "A fyddai yn well i mi erchi yr ysgin er na's gallaf dalu am dani, neu ynte fod hebddi? Na-ni ddylwn i ddim myned i'r fath draul heb ganiattad fy nhad, er y gwn ei fod yn ddigon abl i'w fforddio; ac efe a ystyriai fy ngwaith yn myned i ddyled yn waeth na'r llall. Gan hyny, rhaid i mi ymostwng i archolli ei falchder ef; ac er fy mod yn llawenychu yn yr hyn a wnaethum, gwrthbwysir y llawenydd yn helaeth, gan y meddwl am beri poen i fy nhâd."

Julia druan! yr oedd ei balchder clwyfedig hi ei hunan hefyd yn mynu ei ran mewn achosi ei hanesmwythder; a threuliai y gweddill o'r dydd hwnw, a thranoeth, mewn myfyrdodau ac ofnau, na's tueddent i wellhau ei golygon, a gwneyd gwisg hardd yn fwy afreidiol. Boreu dranoeth ydoedd boreu y rhedegfeydd. Tywynai yr haul yn ddysglaer, ac ymddangosai pob peth yn siriol, ond Julia. Prin y meddai hi galon i ymwisgo. Yr ydoedd yn dra oer, am hyny yr oedd yn rhaid iddi wisgo ei hen ysgin borphor edwinol; ac yn awr, edrychai yn salwach fyth yn ymyl bunheto felfed du, newydd, a hardd. O'r diwedd, dacw Julia wedi gorphen ym-