Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceinion Llenyddiaeth Cymreig Cyf I.djvu/118

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wisgo, yn dywedyd wrthi ei hun, "Yr oedd fy nhad yn siarad am ferch annhaclus Mr. Hanmer. Yr ydwyf yn sicr y gall Mr. Hanmer droi y sylw yn ol." Ac yna, â chalon drom elai i'r cerbyd, a gyrwyd at y tŷ lle yr oeddynt i gyfarfod.

Yr oedd Mr. Beresford yno o'i blaen; a thra yr edrychai âg edmygedd ofnus a'r glogau ceinwych, a ffurfiau ac wynebau golygus y Meisenau Tracey, rhwng tâd pa rai ag yntau y buasai hir ymgystadleuaeth mewn cyfoeth, efe a ymgysurai yn y meddwl, gymaint mwy costus a cheinwych a fyddai gwisg Julia, ac mor dda yr edrychai, yn wridog gan deimlad, fel y dysgwyliai ei gweled, dan ddylanwad cynhyrfiad, ar ei dyfodiad i fewn i ystafell lawn, a'r ymwybodolrwydd o'i bod yn fwy swynol nag arferol yn ei hymddangosiad. O'r diwedd, ymddangosai Julia; ond yn welw, ac wyneb-drist, ac yn ei hên ysgîn borphor.

Y fath siomedigaeth! Ei ferch, yr aeres fawr, yn eneth waelach ei gwisg, a mwy annhaclus yr olwg arni, nag un yn y lle! Yr oedd hyn yn annyoddefol! Prin y gallai ef ei chroesawi, er na's gwelsai hi er's rhai dyddiau; ac efe a ddefnyddiodd y cyfleustra cyntaf i ofyn iddi, a dderbyniasai hi mor arian-nodau. "Do, diolch i chwi, Syr," attebai Julia. "Gan hyny, pa ham na buasech chwi yn prynu y peth a orchymynais i chwi? Yr oedd yn anmhossibl ei fod wedi myned; canys oni phrynasoch chwi ef, ni allasai neb arall yr wyf yn sicr."

"Yr-yr-yr oeddwn yn meddwl y gallwn wneyd hebddo, ac" "Dyna yn awr, dyna wrthnysigrwydd! Pan nad oeddwn i yn ewyllysio i chwi ei gael, yr oedd arnoch chwithau ei eisiau; ac yn awr-yr wyf yn gorfod credu eich bod wedi peidio ei geisio yn fwriadol er fy mhoeni i; ac wele, y mursenod beilchion yna, y rhai nad yw eu tâd yn haner gwerth yr hyn wyf fi, wedi eu gwisgo mor wŷched a thywysogesau. Yn wir eneth, yr ydych yn edrych mor swga a gwrthun, fel na allaf oddef yr olwg arnoch."

Yr oedd cymmysgedd o dynerwch a digter yn y cyfarchiad uchod, fel y llwyr orchfygwyd Julia, hyd onid ymdorodd i wylo. "Dyna,-y mae hi yn myned i'w gwneyd ei hunan yn waeth ei gwedd eto, trwy andwyo ei llygaid. Ond deuwch, mynegwch i mi pa beth a wnaethoch chwi â'r arian; rhaid i mi gael gwybod." "Myfi a'u rhoddais," medd Julia, gan ucheneidio."Eu rhoddi! arswydus! Yr ydwyf yn rhoi fy ngair, na siaradaf â chwi am fis." Ac wedi dywedyd hyny, efe a'i gadawodd, ac a gymerodd ofal i beidio edrych arni, na siarad a hi mwyach. Dechreuai y rhedegfeydd, ac yr oeddynt yn ddyddorawl i bawb ond Julia, yr hon yn ymwybyddus bod ei thad yn edrych arni gyda theimladau siomedig a digofus; a gŵr ei dewisiad, gyda difaterwch, ni's gallai gael unrhyw fwyniant a'i cynnaliai dan ei theimladau trallodus, heblaw yr ymwybyddiaeth fod ei thrallod hi wedi bod yn achos o ddedwyddwch i eraill; a bod y teulu y gweiniasai ymwared iddynt, y pryd hyny, efallai, yn ei chanmol, ac yn gweddio am i fendithion ddisgyn ar ei phen.

Terfynai y rhedegfeydd o'r diwedd, a hi a wenieithiai iddi ei hun, y terfynai ei dwys ofid hithau gyda hyny; ond fe'i siomwyd. Dysgwylid i'r gwyddfodolion aros, i gyfranogi o gyfluniaeth oer, yr hyn a ragflaenid gan gerddoriaeth a dawns; ac yr oedd yn rhaid i Julia dderbyn y gwahoddiad annymunol. Gan fod y nifer fwyaf o'r boneddigesau yn dra ieuainc, dysgwylid nad oeddynt eto wedi annghofio y gelfyddyd o nawf-ddawns, (minuet)—celfyddyd nad oes nemawr ddefnydd yn cael ei wneyd o honi yn awr; ac attolygai Mr. Hanmer, ar Syr Frederic arwain ei ferch ef, i'w dangos ei hun mewn nawf-ddawns. Ufuddhaodd y barwnig, ac yna, cynnygiai gymeryd Julia allan i'r un perwyl; ond, hi a omeddai gydsynio, gan wrido. "Wel, i ba beth y gwnewch fel yna?" medd Beresford, yn ddigofus; yr hwn a wyddai fod Julia yn dra medrus ar y math yma o ddawns. "Pa ham na's gellwch ddawnsio pan ofynir i chwi, Miss Beresford?" "Am nad oes genyf ŵn am danaf," attebai. Julia, "ac ni allaf ddawnsio minuet yn fy—yn fy ysgin."

"Yn mhell y byddo eich ysgin!" medd Beresford, gan annghofio pob gweddeidd-dra, a throi at y ffenestr i guddio ei deimladau digofus, tra y crymai Julia ei phen mewn cywilydd; a'r barwnig a gymerodd Miss Tracey allan, yr hon a daflai y glog a wisgasai o'r blaen, gan ei bod yn dysgwyl y buasai y cyfryw arddangosfa yn cymeryd lle, a dangosai y ffurf mwyaf lluniaidd, wedi ei gosod allan yn y gŵn harddaf. "Gwych! edmygus! y fath ffurf! y fath harddwychder!" a sibrydid drwy yr ystafell. Yr oedd calon falch Mr. Beresford yn curo, nes oedd ar lewygu; tra yr ydoedd Julia, er ei bod yn wastad yn barod i gydnabod rhagoriaeth arall, eto yn teimlo bod yr olygfa yn boenus iddi hi; a hyny yn benaf o herwydd y siomedigaeth a barasai i'w thâd; a'i hunig ymwared drachefn, oedd meddwl am y teulu a waredasid ganddi o'u trueni. Gelwid am reels yn nesaf, ac yna safai Julia i fynu i ddawnsio; ond cyn ei bod wedi dawnsio pum mynyd, diffygiai; gan fel yr oedd y gwahanol deimladau cyffrous yr aethai danynt yn ystod yr wyth awr a deugain flaenorol, wedi llethu ei hysbryd; teimlai ben-ysgafnder yn dyfod drosti, fel na allai fyned yn mlaen, a bu raid iddi eist-