cyfan?" medd y dyn. "Na, na, attolwg ewch ymaith," medd Julia, "a myfi a ddeuaf i siarad â chwi."
"Nage, ar un cyfrif," medd y barwnig yn frwdfrydig, "gadewch i ni gael yr holl hanes, os y gwelwch yn dda."
Yna dechreuodd y dyn adrodd y modd y cyfarfuasai Julia âg ef a'i deulu, ac y gweiniasai ymwared iddynt, ac yna, redeg o honi ymaith er gochel eu diolchiadau; a rhag iddynt ei chanlyn, a'i hadnabod, fel yr ymddangosai. A chan eu bod yn penderfynu na orphwysent hyd oni chaent wybod enw y foneddiges a fuasai mor gymmwynasgar iddynt, eu bod wedi dysgrifio ei pherson, a'i gwisg. "Ond, bendith arnoch chwi Syr," medd y wraig, gan siarad ar draws y gwr, "pan fynegasom pa beth a wnaethai hi erom, ni doedd eisiau i ni ymofyn mwyach, canys dywedai pawb, na's gallasai fod yn neb amgen na Miss Julia Beresford!"
Ar hyn, cuddiai Julia ei hwyneb ar ysgwydd ei thad, ac ni ynganai y gwyddfodolion air. Ymddangosai y boneddigesau ieuainc fel pe y buasent wedi cael eu taro yn eu cydwybod; canys ymddangosai nad oedd un yn eu cymmydogaeth a a'lai wneyd gweithred o garedigrwydd, heblaw Miss Julia Beresford.
"Ewch yn mlaen wr da," medd Beresford yn llednais.
"Wel Syr, fe'm hysbyswyd ddoe, os awn i fyw i dref farchnad, bedair milldir oddiyma, y gallwn gael mwy o waith nag ydwyf yn ei gael yn fy mhentref fy hun; a rhyw beth i fy machgen bach i'w wneyd hefyd; ac felly yr oeddym yn penderfynu myned yno. Ond ni allasem fod yn esmwyth i fyned yno, heb ddyfod yn gyntaf i ddiolch i'r foneddiges ieuanc dda acw, a bendith y Nefoedd a'i dylyno. Felly, wedi ymofyn am dani yn ei chartref, a chlywed ei bod hi yma, nyni a wnaethom mor hyf a dyfod ar ei hol; a'ch gwasanaethyddion a fynegasant i ni pa le y canfyddem hi; a diolch iddi hi, myfi a allaf fforddio i logi certwyn i gludo fy ngwraig afiach, a'm teulu gweiniaid!"
"Y mae hyn yn chwareufa deg," medd Miss Tracey.
"Ond yn gyfryw un ag y dylem oll fod yn falch o gymeryd ein rhan ynddi, yr ydwyf yn credu," medd y barwnig. A chan ddyfod yn mlaen, ychwanegai, "Pa beth meddwch chwi, foneddigion a boneddigesau? er na's gallwn ni ymgystadlu mewn caredigrwydd â Miss Beresford, gan ei bod hi wedi myned i chwilio am dlodi, a'i fod wedi dyfod attom ni—beth meddwch chwi?—a gawn ni wneyd pwrs i'r bobl dda hyn, fel na's meddyliont mai un bod caredig yn unig sydd yn y gymmydogaeth?"
A hyn cyttunai pob un, ac fel yr oedd Syr Frederic yn dal yr het, yr oedd cyfroddion y boneddigesau yn dra haelionus; ond rhoddai Mr. Beresford bum guni; yna Mr. Hanmer a ddymunai ar i'r teulu gorlawen fyned i'w dŷ i gael ymborth; a'r cwmni a ail gymerasant ei heisteddleoedd. Ond, gan fod Mr. Beresford wedi gadael ei sedd, i fyned i sychu ei lygaid o'r golwg, gerllaw y drws, cymerasai y barwnig yr eisteddle wag, gerllaw Julia.
"Yn awr, foneddigesau a boneddigion," medd Beresford, "chwi a gewch weled golygfa newydd—tâd yn gofyn maddeuant gan ei blentyn. Julia, fy anwylyd, yr ydwyf yn gwybod fy mod wedi ymddwyn yn dra annheilwng; myfi a wn fy mod wedi bod yn groes iawn yn annynol iawn; myfi a wn fy mod. Yr ydych chwi yn eneth dda; ac felly y buoch erïoed, ac y byddwch yn wastad, yn ogoniant fy einioes; gan hyny, gadewch i ni ymgusanu a bod yn ffryndiau." Ar hyny, Julia a ymollyngai i freichiau ei thâd, gan ddywedyd y gallai hi fod fel ei hunan drachefn yn awr.
"Pa beth! mwy o ddrychfeydd eto!" medd Mr. Hanmer. "Pa beth Beresford! a ydych chwithau hefyd yn syniannol! Pwy fuasai yn meddwl y fath beth?" I'r hyn yr attebai ef, "Myfi a adroddaf stori i chwi yn awr. Fe ddarfu i'r eneth yna fy mhoeni a'm cythruddo yn fawr.—Do, hi a wnaeth. Yr oeddwn yn dymuno iddi fod yn geinwych, er anrhydedd i chwi, ac i'ch merch heddyw; ac am hyny anfonais ddeuddeg guni iddi hi, i brynu ysgîn felfed hardd-wych, yr hon a chwenychasai, ond a dybiwn i yn rhy ddrud. Ond yn lle hyny, yma y daeth hi yn yr hen ysgin hyllig hon; ac mor annhaclus yw yr olwg arni!—a phan ei ceryddais, dywedai ei bod wedi rhoddi yr arian; ac felly, yr ydwyf yn tybied mai yr arian hyny a roddes hi i'r bobl dlodion hyn. Onid felly y bu Julia?"
"Gwir yw," medd Julia, "ac ni feiddiwn i fod mor wastraffus drachefn a cheisio yr ysgin hefyd."
"Felly gan hyny Hanmer," medd efe, "chwi a ellwch fy ffroen-wawdio i am fy mod yn syniannus, os dewiswch; ond yr ydwyf yn falchach o'm geneth yn awr yn ei hysgin salw hon, na phe y buasai wedi ei gwisgo yn y sidan a'r pali drutaf."
"Ac felly y dylech fod," medd Syr Frederic, a chan godi cwr ei hysgîn, ychwanegai, "Y mae Miss Beresford wedi gwneyd y dilledyn hwn yn urdd-wisg anrhydeddus." A chan ddywedyd hyny, efe a'i gwasgai at ei wefusau. "Deuwch," medd efe, "myfi a roddaf lwnc-destyn i chwi. Dyma i iechyd y ferch a allai aberthu boddhad ei gwagedd personol i hawliau cymwynasgarweb"