Y boneddigesau a grychent eu gwefusau teg, ond a yfent y llwnc-destyn, ac aeth Beresford tu a'r drws i sychu ei lygaid drachefn; tra na's gallai Julia lai na chydnabod ynddi ei hun, os y cafodd hi ei mynydau o boen, eu bod wedi eu gwobrwyo yn helaeth.
Ail ddechreuwyd ar y cyfluniaeth yn awr, a chyfranogai Julia o hono gyda hyfrydwch; yr oedd ei chalon wedi ei hesmwythau, ei gwrid a ddychwelai i'w grudd, a'i gloywder i'w llygaid. Canai y Meisenau Tracey eto, a hyny yn fwy gogoneddus nag o'r blaen. Synai pawb at eu medrusrwydd, ac fe'u canmolid yn ddirfawr; yna, gofynid i Julia ganu drachefn.
"Myfi a allaf ganu yn awr," ebe hi; "ac ni fyddaf byth yn gomedd gwneyd pan allaf. Yn awr yr ydwyf wedi cael adferiad o ffafr fy Nhad; ac yna gallaf gael fy llais hefyd;" ac yna, heb ychwaneg o ragymadrodd, hi a ddadganodd faled syml a chwynfanus, yn dra effeithiol, er yn ddi addurn a di rodres.
Wedi terfynu o honi, fe'i huchel ganmolid gan bawb ond Syr Frederic, ac yr oedd ef yn ddystaw; ond gwelai Julia, fod ei lygaid yn seirianu, a chlywai ef yn ucheneidio; a llawenhai yn fawr am ei fod wedi ymattal rhag dywedyd dim.
Canodd y chwiorydd drachefn, a Julia hefyd. Yna ymadawai y cymdeithion. Ond gwahoddai Mrs. Tracey yr un rhai i gyfarfod yn ei thŷ hi mewn dawnsfa, a swper y noson hono; â'r hyn y cydsyniasant oll. Fel yr oeddynt yn dychwelyd i'r tŷ, rhoddai Syr Frederic ei fraich i Julia, a cherddai Miss Tracey o'u blaen. "Y mae hon yna yn eneth hynod brydferth a golygus," medd Syr Frederic. "Ydyw yn wir, yn ddillyn odiaeth," medd Julia; "ac y mae hi yn canu yn rhagorol." "Gwir," medd Syr Frederic, y mae hi yn canu yn fedrus ryfeddol; ond nid yw yn ddymunol. Y mae ei chanu fel hi ei hunan—glewddygan (bravura song), yw hi ei hunan, hynod o olygus, a chlaerwych, ond heb fod yn effeithiol, yn ddyddorol. "Gwenai Julia ar y gyffelybiaeth; a'r barwnig a elai rhagddo, gan ddywedyd, "A beidiwch chwi a bod yn ddig, Miss Beresford, am lyfasu o honof ddywedyd, eich bod chwithau hefyd yn debyg i'ch canu. Os glewddygan yw Miss Tracey, baled ydych chwithau, heb fod mor olygus, a chlaerwych, ond yn deimladwy, dyddorol, a—"
"O! attolwg, na ddywedwch ychwaneg," medd Julia, gan wrido, a phrysuro i ymuno â'r lleill, ond gwridiad o bleser oedd; ac fel y marchogai adref, ymddifyrai yn olrhain holl briodolderau y faled; ac yr oedd hi yn eithaf boddhaol ar yr olrheiniad.
"Julia," medd ei thâd dedwydd, fel yr oeddynt yn myned adref y noson hono, "chwi a gewch yr ysgin felfed, a Syr Frederic hefyd, yr ydwyf yn dysgwyl."
Ac nid oedd efe yn camsynied; daeth yr ysgin yn eiddo iddi dranoeth; a'r barwnig hefyd yn mhen ychydig fisoedd. Ond, y mae Julia yn cadw a'r gofal mwyaf, yr hen ysgin edwinol, a alwai Syr Frederic yn "urddwisg anrhydeddus."
MABINOGI;
NEU RAMANT MATH AB MATHONWY.
Y Mabinogion oeddynt addysgiadau chwedlonol, wedi eu bwriadu yn benaf, er hyfforddi yr ieuainc yn egwyddorion Barddas. Cynnwysant draddodiadau o'r cynfyd, mewn math o ffug-hanesion, pan yr oedd gan Dderwyddiaeth ei choleddwyr; ac y maent wedi eu cyfansoddi mewn cysondeb manwl a'r syniadau boreuol oedd gan yr hen Gymry; ac olrheiniadau ein henafiaethwyr goreu. O'r drysorfa hon y cafwyd yr adroddiadau rhamantus, a fu am lawer o oesau, yn brif ddefnyddiau darlleniad yn Ewrob. Golyga y gair "Mabinogi," yn ol Dr. Puw, addysgiad ieuengetid, neu adloniant mebyd. Y mae y cyfansoddiadau hyn wedi eu hysgrifenu yn ieithwedd yr oesau boreuol, ond amcenir eu gosod ger bron yma, mewn gwisg gyffredin, berthynol i'r dyddiau hyn, heb gaeth—ymlynu wrth y gwreiddiol, yn ddim pellach na'r gwir ystyr a'r amcan.
Y prif gymeriadau yn y Fabinogi hon, ydynt Math ab Mathonwy, a Pryderi. Yr oedd y blaenaf yn gymeriad cyhoeddus yn y rhamantau Cymreig, yr hwn a dra—ragorai ar bawb am ei alluoedd swynyddol. Crybwyllir am dano mewn dau Driad arbenig; lle y darlunir ef fel gwr o fedrusrwydd mawr mewn Hud a Lledrith, yr hon gelfyddyd a ddysgodd efe i Gwdion ab Don; ac y priodolir un o brif swynion yr ynys iddo ef. Ymddengys fod y ddawn gyfriniol hon wedi disgyn iddo ef oddiwrth ei dad; ac y mae ei hud-lath yn cael ei darlunio gan Taliesin, yn ei Gerdd Daronwy.[1] Cyfeiria y Pen-Beirdd ato hefyd yn ei Gad-Goddeu, a'i Farwnad i Aeddon o Fon. Mab ydoedd yr olaf, sef Pryderi, i Pwyll Pen Annwn, un o benaduriaid Dyfed; yr hwn sydd gymeriad hynod yn y chwedlonau Cymreig. Cedwir coffadwriaeth am dano mewn Triad neillduol, lle y gelwir ef yn un o'r tri "gwrddfeichiaid," neu foch—borthwyr, cedyrn Ynys Prydain. Y ddau eraill oeddynt Trystan, a Coll. Pryderi ydoedd fochgeidwad ei dadmaeth, Pendaran, yn nyffryn Cuch, yn Emlyn. Gelwid Pryderi hefyd yn y Mabinogion, Gwri Gwallt Euryn; ac y mae rhai manylion o hanes ei fywyd boreuol, yn cael eu cofnodi yn Mabinogi Pwyll Pendefig Dyfed, a Cilhwch ac Olwen. Y mae hanes ei anturiaethau wedi ei ddyfod i oedran gwr, wedi eu cyfleu yn helaethach yn Mabinogi Manawyddan, gyd ag enw yr hwn y mae wedi ei gysylltu yn y Gerdd am Feib Llyr, a briodolir i Taliesin.
Math, fab Mathonwy, ydoedd arglwydd ar
- ↑ "Hutlath Fathonwy
Ynghoed pan dyfwy
Ffrwytheu mwy cymrwy
Ar lan Gwyllionwy."