Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceinion Llenyddiaeth Cymreig Cyf I.djvu/126

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wyn," ebai Math, "a wyt ti yn forwyn mewn gwirionedd." "Nis gwn amgen, fy arglwydd, nad wyf felly." Ar hyny, cymerodd ei hudlath yn ei law, a chan gamu drosti hi, efe a ddywedodd, "cama di dros hon, ac os morwyn wyt, mi a gaf wybod." Yna hithau a gamodd dros yr hudlath; ac wrth gamu drosti, gadawodd yno fachgen cryf, iachus, melynwallt, hardd. Wedi llefain o'r plentyn, hi a edrychodd am y drws, a theimlai ei bod yn gadael rhywbeth eiddil ar ei hol, a chyn y gallai neb gael ail olwg arno, cymerai Gwdion ef i fynu, ac a'i goblygai mewn gorchudd pali, ac a'i cuddiodd; a'r lle y dododd ef yn ddiogel, ydoedd y cwr isaf mewn cist, oedd wrth draed y gwely. "Wel, mi a orchymynaf i hwn gael ei fedyddio," meddai Math ab Mathonwy, am y bachgen glan, iachus, melynwallt, dyma yr enw yr wyf yn ei roddi arno, Dylan." Bedyddiwyd y bachgen, ac wedi ei fedyddio, efe a gyrchai am y môr, ac yn uniongyrchol wedi ei ddyfod at y môr, efe a gafodd ei elfen naturiol, gan y gallai nofio cystal ag y nofia y pysgodyn chwimaf. Ac o blegid hyny, y galwyd ef Dylan, neu Mab y Don. Ni thorai ton byth o tano. Y dyrnod trwy yr hwn y daeth i'w angau, a roddwyd arno gan Gofannion, ei ewythr; a dyna "y trydydd dyrnod angeuol." Fel yr oedd Gwdion, un dydd penodol, ar ei wely, ac yn effro; clywai grio yn y gist wrth ei draed; er nad oedd yn uchel, eto yr oedd yn glywadwy iddo. Yna cyfododd yn fuan, ac agorodd y gist; ac ar ei hagoriad, gwelai fachgen bach yn estyn ei freichiau, oddi rhwng plygion y gorchudd, ac yn ei ledaenu yn agored. Cymerodd y bachgen rhwng ei ddwylaw, ac aeth ag ef rhyngddo a'r pentref, lle y gwyddid fod yno wraig a llaeth yn ei bronau, ac efe a gytunodd a'r wraig am fagu y plentyn. Dros ysdod y flwyddyn hono, cafodd y plentyn ei fagwraeth: a chyn ei therfyniad, efe a ymddangosai i'r rhai oedd yn adnabyddus o hono, fel pe buasai yn ddwyflwydd oed; ac erbyn yr ail flwyddyn yr oedd yn fachgen maintiolus, ac yn alluog wrtho ei hun i gyrchu am y palas. Yr oedd Gwdion hefyd, wedi dyfod i'r llys, a'i sylw yn fawr arno, a daeth y bachgen yn hoffus gydag ef, yr hwn a'i carai yn fwy na phawb eraill. Yna magwyd y bachgen yn y llŷs, hyd nes yr oedd yn bedair blwydd oed; ac yr oedd yn ymddangos yn debyg i fachgen wyth mlwydd oed, o ran maint a gwedd. Ac ar ddiwrnod penodol, efe a ddilynai ar ol Gwdion, i rodio o amgylch; ac felly y daeth Gwdion i amddiffynfa Arianrod, a'r bachgen gydâg ef. Wedi dyfod i'r llys, cododd Arianrod i'w dderbyn, gne groesawu, a dymuno iechyd da iddo. "Y nefoedd a'th lwyddo di," ebai Gwdion. "Pwy ydyw y bachgen yna sydd gyda thi?" meddai hi. Atebai yntau, "y bachgenyn hwn, mab i ti ydyw." "Gwrando ddyn!" meddai hithau; "pa beth sydd arnat ti, pan y deuit i'm cywilyddio i fel hyn; ac i ychwanegu fy nghywilydd, wedi ei gadw yn ddirgel cyhyd a hyn?" "Ond," ebai y llall, "os na ddaw rhyw gywilydd mwy arnat ti, na magu bachgen mor hawddgar a hwn, y mae ychydig iawn o beth yn ddigon i dy gywilyddio." "Pa beth yw enw dy blentyn?" gofynai Arianrod; "Diau," meddai ef, "nid oes yrun enw wedi ei roddi arno eto." "Wel," meddai hi, "mi a wnaf hyn yn dynged iddo, na chaiff ef yr un enw, os na bydd wedi ei roddi arno genyf fi." "Yrwyf yn tystiolaethu i'r nefoedd," meddai efe, "dy fod yn wraig ddrygionus; eto, enw a gaiff y bachgen, er y gallai fod yn dramgwyddus genyt ti. A thithau hefyd, yr hon wyt yn dioddef digofaint un arnat, am na elwir di yn forwyn, ni elwir di byth mwy yn forwyn." Ac yna, cerddodd ymaith yn ei ddigllonedd, ac aeth rhyngddo a Chaer Dathl, ac yno yr arhosodd efe y noswaith hono. Cyfododd y boreu dranoeth, a chymerodd y bachgen gydag ef, ac a aeth i ymgrwydro gyda glan y mor, rhwng yno ac Aber Menai; ac yno y gwelai ddelysg a mor-wiail, o'r rhai, drwy hud, y cyfodai long; ac o'r gwymon a'r delysg, y codai gortynau ac edafedd mewn cyflawnder, ac efe a'u harliwiai, fel yr ymddangosai fel y lledr harddaf a ellid ei weled. Ar hyny, efe a gyweiriodd hwyl ar y llong, ac a ddaeth hyd at ddrws porth Caer Arianrod; efe a'r bachgen yn y llong. Yma efe a ddechreuodd lunio esgidiau, a'u gwnio; ac yna y canfyddid hwy oddiar yr amddiffynfa. A chan gynted ag y deallodd ef eu bod wedi sylwi arno o'r amddiffynfa, efe a ymledrithiodd mewn gwedd arall iddynt, fel nad adnabyddid mo honynt. "Pwy ydyw y dynion acw sydd yn y llong," meddai Arianrod? "Cryddion ydynt," meddynt yn ei gosgordd." "Ewch ac edrychwch pa fath ledr sydd ganddynt, a pha fath waith y maent yn ei wneuthyr." Yna y daethpwyd atynt, ac ar eu dyfodiad, yr oedd Gwdion yn amrywio yr edafedd, fel yr ymddangosent o liw euraidd. Yna dychwelodd y cenhadon, ac a fynegasant hyny iddi. "Gan hyny," ebai hi, "cymerwch fesur fy nhroed i, a gofynwch i'r crydd wneud esgidiau i mi." Yna efe a wnaeth yr esgidiau, ond nid wrth y mesur, ac yr oeddynt yn rhy fawr iddi. Dygwyd yr esgidiau iddi. "Sylwch," ebai hi, "y mae yr esgidiau dros ben mesur, yn mhell dros ben y mesur. Caiff ef eu gweith; ond gofynwch iddo wneud rhai eraill, llai i mi." Felly efe a wnaeth rai eraill, yn llawer llai na'i throed; ac a'u danfonodd iddi. "Dywedwch wrtho nad à y rhai hyn ddim am fy nhraed i," meddai hi. Mynegwyd felly i Gwdion. "Wel