felly," meddai yntau, "ni wnaf fi esgidiau iddi mwy, hyd nes y caf weled ei throed." A dywedwyd hyny wrthi. "O'r goreu," meddai hithau, "os felly, mi a af ato ef." Yna hi a ddaeth i'r llong; a phan y daeth hi yno, yr oedd ef yn tori allan y defnyddiau, a'r bachgen yn gwnio. "Wel, arglwyddes," meddai Gwdion, "dydd da i ti." "Rhodded y nefoedd bob llwyddiant i ti," meddai hithau. "Y mae yn rhyfedd genyf fi, nad allit ti wneud esgidiau wrth fesur." "Ni bum i yn alluog i hyny," meddai ef, "ond mi a fedraf yn awr." Ac ar hyny y gwelid Dryw yn sefyll ar fwrdd y llong, a gollyngodd y bachgen ergyd ati, ac anelodd hi rhwng gewyn yr esgair a'r asgwrn. Yna chwarddodd Arianrod. "Diau, ebai hi, "a llaw gyffes, neu gywrain, y medrodd y llew ei hanelu." "Ie," ebai Gwdion, "na wobrwyed y nef dydi, o blegid, y mae efe wedi cael enw, a hwnw yn dra phriodol iddo, a "Llew Llawgyffes,"[1] a fydd ei enw o hyn allan. Ac ar hyny, diflanai y gwaith i gyd allan o'r golwg, yn nghanol y delysg a'r gwymon, ac ni ddilynodd efe y gwaith ddim yn mhellach. Ac am hyny y gelwid ef "yn drydydd Eurgrydd." "Diameu," meddai Arianrod, "ni byddi di yn ddim gwell, wrth ymddwyn mor angharedig tu ag ataf fi." "Ni ymddygais i erioed yn angharedig atat ti" atebai Gwdion; ac yna caniataodd i'w fab ymddangos yn ei ffurf ei hun. "Wel," ebai hithau wedi hyny, "yr wyf fi yn gosod tynged ar y bachgen hwn, na byddo iddo ef byth gael arfau, ac arfwisg, os na bydd iddo gael ei wisgo â hwy genyf fi." "Myn y nefoedd," meddai Gwdion, "deued a ddelo o dy ddrygioni di, efe a gaiff wisgo arfau." Yna y daeth Gwdion a'i fab, yn mlaen tu ag at wersyll Dinlleu, ac yno y meithrinid Llew Llawgyffes, hyd na ddaeth yn alluog i farchogaeth pob march, ac yn gyflawn o faintioli ac o degwch pryd a gwedd. A sylwai Gwdion, fel yr oedd efe yn nghanol trallod, o eisiau meirch ac arfau, ac efe a alwodd y bachgen ato. "Ha, y gwr ieuange," meddai Gwdion, "yr ydym ni i fyned ar neges yforu, a bydd di yn llawenach nag yr ydwyt yn awr." "Mi a fyddaf felly," meddai yntau. Act ar doriad y dydd dranoeth, cyfodasant, a chymerasant eu llwybr gyda glan y mor, i fynu tua bryn Arion; ac ar ben crib Clydno cymerasant eu meirch, a daethant hyd at amddiffynfa Arianrod, ac yno newidiasant eu hymddangosiad, gan ddynesu at y porth yn rhith dau wr ieuange, oddigerth yn unig fod agwedd Gwdion yn fwy difrifol na'r gwr ieuange. "Y Porthor," meddai Gwdion, "dos i mewn, a dywed fod yma feirdd o Forganwg." Aeth y porthor i mewn. "Bendith y nef, fyddo arnynt," meddai Arianrod, "gollwng hwy i mewn, gyda chroesaw." Yr oedd llawenydd dirfawr yn cael ei amlygu ar eu derbyniad i mewn. Yr oedd y neuadd wedi ei pharotoi; ac at eu gwledd yr aethant; ac wedi iddynt ymborthi, ymddiddanai hi à Gwdion, yn nghylch newyddion a hanes y tymor. Yr oedd Gwdion hefyd yn hanesydd da. A phan y daeth yr adeg i noswylio, wedi y gyfeddach, yr oedd ystafell wedi ei pharotoi iddynt, ac yna aethant i orphwys. Yn mhell cyn toriad y wawr, cododd Gwdion i fynu; ac yna galwodd am ei hud a'i alluoedd lledrithiol ato. Pan y daeth goleu dydd i ddangos pob peth o'u hamgylch, yr oedd yno gynnwrf cyffredinol, gyda seiniadau udgyrn, a bloeddiadau tyrfaoedd, drwy yr holl wlad. Wedi i oleu dydd ddyfod yn eglur, clywai yr ymwelwyr guro ar ddrws yr ystafell; ac ar hyny, dymunai Arianrod iddo gael ei agoryd. Cododd y gwr ieuanc, ac agorodd y drws; daeth hithau i mewn, a morwyn gyda hi. "Ha wyr da," meddai hi, "yr ydym mewn cyflwr drwg." "Ie," ebai Gwdion, "yr ydym yn clywed sain udgyrn, a bloeddio, a pha beth yr wyt ti yn ei dybio o hyny?" "Diameu," meddai hi, "ni allem ni gael golwg ar y môr, gan fod yna gynnifer o longau ar draws eu gilydd; ac y maent yn dynesu at y lan, mor gyflymed ag y gallont; a pha beth a wnawn. ni?" "Arglwyddes," ebai Gwdion, "nid oes le i ni ymgynghori â neb, nid oes i ni ddim i'w wneud, ond cau yr amddiffynfa yn ddiogel arnom, a'i chadw mor wrol ag y gallom." "Ie," ebai hethau, "y nefoedd a'ch gwobrwyo; a bydded i chwithau hefyd gyd ymgynull; ac y mae yma ddigonedd o arfogaeth i chwi." Ac yn uniongyrchol, hi a aeth i ymofyn am yr arfau, ac ar hyny, gwelid hi yn dychwelyd gyda dwy forwyn, yn dwyn arfogaeth i ddau ddyn gyda hwy. "Arglwyddes," ebai Gwdion, "bydded i ti wisgo y gwr ieuange hwn; ac am danaf fi, bydd i mi fy hun, gyda y ddwy forwyn hyn, ymwisgo yr un modd. Yr wyf yn clywed trwst y dyrfa yn dyfod." "Hyny a wnaf yn llawen." A buan y gwisgodd hi ef yn gyflawn. "A ydyw y cyfan wedi eu cwblhau," ebai Gwdion? a ydyw y gwr ieuangc wedi ei wisgo? "Ydyw;" atebai Arianrod. "Felly y mae gyda minnau hefyd," ebai Gwdion. "Gadewch i ni roddi ein harfogaeth heibio yn awr, nid oes dim o'u heisiau arnom ar hyn o bryd." "Och! pa fodd
- ↑ "Llew llaw gyffes." Y mae yr amgylchiad a grybwyllir yn y Chwedl, o ymdaith Llew llaw gyffes gyda Gwydion ab Don, dan rith gwneuthurwr esgidiau eurliw, i geisio enw ac arfan gan ei fam Arianrhod, yn cael ei grybwyll yn y triad canlynol: Tri Eurgryd ynys Prydain; Caswallawn ab Beli, pan aeth hyd yn Ngwaagwyn, i gyrchu Fflur, merch Mygnach Gorr, a ddyged o Lathlud yno i Gaisar amherodr y gan a elwid Mwrchan Leidr, brenin y wlad hono, a châr Iwl Caisar; a Chaswallawn a'i dyges yn ol i ynys Prydain:-ail, Manawydan ab Llyr Llediaith, pan fu hyd ar Ddyfed yn dodi gorddodau; a Llew Llaw Gyffes, pan fu ef gyda Gwydion mab Don yn ceisio Enw ac Arfau y gan Arianrod ei fam ef."